Newyddion S4C

Pryder bod y mwyaf bregus yn osgoi brechiadau ar gyfer y gaeaf

15/11/2023
brechu

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi galw ar bobl fregus i gael eu brechiadau y gaeaf hwn i’w hamddiffyn eu hunain a'r gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ychydig dros draean o'r rhai sy'n gymwys sydd wedi cael eu brechiad atgyfnerthu Covid-19.

Dywedodd Dr Frank Atherton ei bod yn hanfodol bod y rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch dros y gaeaf yn derbyn y gwahoddiad i gael brechlyn Covid neu'r ffliw.

Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn gorfod mynd i'r ysbyty gyda salwch anadlol bob gaeaf, meddai Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd Rhaglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar 11 Medi 2023 ac mae'n cynnig brechlynnau Covid-19 a'r ffliw am ddim i bobl dros 65 oed a phobl iau sy'n agored i niwed yn glinigol.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechlyn gaeaf.

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol ei fod eisiau i bobl dderbyn y brechlyn er mwyn amddiffyn eu hunain.

“Brechu yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn y rhai sy'n agored iawn i niwed yn sgil feirysau anadlol neu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu derbyn i'r ysbyty. 

“Dyma pam rwyf am annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn Covid-19 a'r ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig hwn. Cael y brechlyn yw'r peth gorau y gall pawb ei wneud i amddiffyn eu hunain a helpu i atal ein gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu y gaeaf hwn.”

Ychwanegodd Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Brechiadau yw ein hamddiffyniad gorau yn erbyn clefydau difrifol. Yn y Deyrnas Unedig, mae pob brechlyn wedi bod drwy broses drylwyr i gymeradwyo ei ddiogelwch.   

“Mae feirysau anadlol yn ffynnu yn y gaeaf, gyda phlant ifanc iawn, pobl â chyflyrau iechyd a’r henoed yn eithriadol o agored i niwed. Wrth i’r tywydd oeri, mae’n haws i feirysau fel y ffliw ledaenu. Does neb eisiau bod yn sâl dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, felly mae’n werth cael eich brechlyn.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.