Enwau lleoedd: Oes angen ffurfiau Cymraeg a Saesneg?
Enwau lleoedd: Oes angen ffurfiau Cymraeg a Saesneg?
Beth sydd mewn enw?
Wel, eitha tipyn mae'n debyg.
Glyn-Nedd neu Glynneath? Aber-craf neu Abercrave?
Oes 'na 'y' yng Nghlunderwen? Ac i bobl Brynaman - sawl 'm' sy'n enw eich pentre chi?
Oes angen enwau Saesneg o gwbl?
Dim yn ôl deiseb sydd wedi ei chyflwyno i'r Senedd, sy'n galw am ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru.
'Dan ni angen ymdriniaeth Gymraeg. A dw i'n credu falle drwy gymryd camau bach yn ddadleuol a falle bach yn sensitif.
Cytuno a hynny i ryw raddau mae Gweinidog y Gymraeg.
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant fe ddywedodd Jeremy Miles lle mae ynganiad enwau Cymraegna Saesneg yn debyg i'w gilydd wedyn mae 'na ddadl gref dros lynu at un sillafiad.
Mae e'n credu y gall wneud synnwyr i lynu at y sillafiad Cymraeg. Mae Cydweli wedi gweld sawl sillafiad dros y blynyddoedd. Cadweli, Catwelli a Cedweli ac erbyn hyn mae 'na ddau opsiwn.
Opsiwn Cymraeg, Cydweli, fel mae'r Cyngor Tref yn ei ddefnyddio neu Kidwelly yr opsiwn Saesneg fel mae'r Clwb Rygbi yn defnyddio.
Mae'n sefyllfa tebyg mewn sawl tref a phentrefi ar draws Cymru. Llefydd ac enwau tebyg yn y Gymraeg ac yn Saesneg ond sillafiad ychydig yn wahanol. Rhuthun, Wrecsam a Biwmares.
Beth am Gaerffili, Llanwrtyd a'r Barri? Ac yng ngorllewin Sir Gar, ai arwyddion Sanclêr neu St Clears ddylse fod ar y ffyrdd? Sanclêr. 'Sdim ishe St Clears a Sanclêr. 'Run peth a Caerffili - 'ph' a 'ff'. 'Na'r gwahaniaeth.
Os yw'r enw yn Gymraeg, fydden i'n cadw at yr enw Cymraeg. Mae enw Cymraeg yn iawn, maen nhw'n ddigon tebyg.
Sa i'n credu bod ishe enw Saesneg yng Nghymru. Mae Huw George wedi byw yng Nghlunderwen a Llandysilio sydd â sillafiad gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n mynd i fod yn ddadleuol yn ambell i le.
Chi'n gorfod edrych ymlaen i'r dyfodol a gweld beth yw'r gain. Byddwn ni'n ennill yn fawr iawn fel cenedl. Fe hoffwn i weld mwy o enwau llefydd yn y Gymraeg trwy Gymru i gyd ond dw i ddim yn siŵr bod hi'n addas i ail-enwi llefydd neu cael gwared ar yr holl ffurfiau.
Fe fydd cael gwared ar enwau yn ddadleuol mewn rhai cymunedau. Ond i eraill mae'n hen bryd dathlu ein henwau Cymraeg.