Penodi Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi mai Carol Shillabeer yw eu prif weithredwr newydd.
Cafodd Ms Shillabeer ei phenodi yn Brif Weithredwr dros dro ym Mai 2023 a bydd yn dechrau yn swyddgogol yn y rôl yn barhaol yn y flwyddyn newydd.
Mae ganddi brofiad ym maes iechyd fel Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, a bu'n Brif Swyddog Gweithredol yn GIG Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Menywod, a than yn ddiweddar, Gofal Cymunedol a Gofal Cymhleth.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod y penodiad yn "arwain at ddilyniant ac yn cynnal deinameg newydd i weithio tuag at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn symud oddi wrth fesurau arbennig ac yn datblygu cynlluniau uchelgeisiol a'u gwireddu ar gyfer y dyfodol."
Ddechrau'r flwyddyn, cafodd bwrdd iechyd y gogledd ei osod dan fesurau arbennig unwaith eto a chamodd nifer o aelodau'r bwrdd rheoli o’r neilltu.
Daeth yr ymddiswyddiadau lai nag wythnos wedi i adroddiad damniol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddweud fod problemau ar frig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “berygl sylfaenol” i allu’r bwrdd i weithio’n effeithiol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan ar y pryd bod ganddi "bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd."
'Heriau sylweddol'
Wrth ymateb i'w phenodiad i'r swydd yn barhaol, dywedodd Carol Shillabeer ei bod hi yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn wynebu heriau a bod angen "creu'r arweinyddiaeth a diwylliant cywir" i oresgyn yr heriau.
"Mae'n bleser ac yn anrhydedd cael fy mhenodi fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
"Yn y cyfnod byr yr ydw i wedi bod yma, rydw i wedi gweld ymrwymiad cryf gan gydweithwyr a phartneriaid fel ei gilydd i wneud gwelliannau ac i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl Gogledd Cymru yn eu disgwyl a'u haeddu.
"Mae llawer o newidiadau wedi cael eu gwneud yma dros y blynyddoedd diwethaf ac rydw i'n hyderus y byddwn yn creu'r arweinyddiaeth a'r diwylliant cywir i ddarparu'r sefydlogrwydd a'r hyder sydd arnom eu hangen i fynd â'r sefydliad i'r cyfeiriad cywir.
"Rydw i'n gwybod ein bod ni'n wynebu heriau sylweddol ac rydw i'n ymrwymedig i gydweithio â staff, partneriaid a chymunedau er mwyn ein helpu i'w goresgyn gyda'n gilydd wrth i ni symud ymlaen.
Ychwanegodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydw i'n hynod falch bod Carol wedi penderfynu derbyn y rôl fel ein Prif Weithredwr ac rydw i am ei chroesawu hi at y Bwrdd Iechyd ar sail barhaol.
"Rydw i wedi cael y cyfle i weithio gyda Carol ers mis Mai ac rydw i'n credu bod ei phrofiad eang o arweinyddiaeth, datblygu sefydliadol a gweithio mewn partneriaeth yn golygu mai hi yw'r unigolyn cywir i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gallu bod yn y sefyllfa y dylai fod ynddi.
"Mae Carol eisoes wedi cael effaith sylweddol ers ymuno â ni dros dro ac mae'r penodiad hwn yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnom er mwyn parhau i roi gwelliannau ar waith i'n cymunedau, ein staff a'n partneriaid."