Newyddion S4C

Pennaeth ysgol i wynebu rhagor o gyhuddiadau troseddol wedi cwynion newydd

14/11/2023

Pennaeth ysgol i wynebu rhagor o gyhuddiadau troseddol wedi cwynion newydd

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi y bydd pennaeth ysgol yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 23 Tachwedd i wynebu chwech yn rhagor o gyhuddiadau yn gysylltiedig â chwynion gan bump o unigolion eraill yn ei erbyn. 

Mae rhai o'r cyhuddiadau hynny yn erbyn Neil Foden yn ymwneud â throseddau rhyw honedig.  

Mae'r dyn 66 oed, eisoes wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o gam-drin plentyn yn rhywiol ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa ers  y gwrandawiad blaenorol.

Mae’r prifathro wedi’i gyhuddo o droseddau gan gynnwys gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ymosodiad rhywiol ar blentyn a chyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn.

Mae wedi ei wahardd o'i swydd am y tro wrth i'r ymchwiliad barhau.

Yn y gwrandawiad ym mis Hydref, fe wnaeth Mr Foden siarad dros gyswllt fideo i'r llys er mwyn cadarnhau ei oedran a’i ddyddiad geni mewn gwrandawiad a wnaeth bara am 15 munud.

Cafodd yr achos hwnnw ei ohirio nes ddydd Gwener 5 Ionawr 2024.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu â'r llu gan ddefnyddio cyfeirnod  A143631.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.