Newyddion S4C

Ymdrechion i achub 40 o weithwyr mewn twnnel ym mynyddoedd yr Himalaia

14/11/2023
Twnnel Himalayas (Llun: X/@TNNavbharat)

Mae ymdrechion i achub 40 o weithwyr yn parhau ar ôl i ran o dwnnel oedd yn cael ei hadeiladu ddymchwel yng ngogledd India.

Fe wnaeth y twnnel gwympo ddydd Sul yn nhalaith Uttarakhand, yn ardal mynyddoedd yr Himalaia, gan adael 40 o weithwyr yn gaeth gan gerrig a rwbel.

Roedd y gweithwyr yn adeiladu rhan o dwnnel ar gyfer ffordd newydd rhwng Silkayara a Dandalgaon, pan wnaeth rhan o'r twnnel gwympo rhyw 250 medr o’r fynedfa.

Mae dros 100 o weithwyr o asiantaethau achub cenedlaethol a rhanbarthol yn arwain ymdrechion i glirio’r rwbel er mwyn rhyddhau’r gweithwyr.

Mae’r awdurdodau yn India yn adrodd bod gweithwyr yn ddiogel ar hyn o bryd, ac yn darparu bwyd a diod iddynt.

Mae ocsigen hefyd yn cael ei bwmpio i’r rhan o’r twnnel ble mae’r gweithwyr yn gaeth.

Mae’r awdurdodau yn dweud eu bod yn gobeithio gallu rhyddhau’r gweithwyr erbyn dydd Mercher ar y man hwyraf.

Llun: X/@TNNavbharat

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.