Newyddion S4C

Datrys dirgelwch 'Y fenyw gyda'r tatŵ o flodyn' 31 mlynedd ers llofruddiaeth Cymraes yng Ngwlad Belg

14/11/2023
Rita Roberts

Mae menyw o Gaerdydd wedi cael ei hadnabod 31 mlynedd ar ôl ei llofruddiaeth yng Ngwlad Belg, wedi apêl ryngwladol am wybodaeth.

Cafwyd hyd i gorff Rita Roberts mewn afon yn Antwerp ar 3 Mehefin, 1992. 

Roedd yr achos yn cael ei adnabod yng Ngwlad Belg fel 'Y fenyw gyda'r tatŵ o flodyn'.

Ni chafodd ei hadnabod am fwy na thri degawd, er gwaethaf y tatŵ nodedig o flodyn du gyda dail gwyrdd ar ei braich chwith. 

Yn wreiddiol o Gaerdydd, cafodd Rita Roberts ei hadnabod gan aelod o’i theulu ar ôl iddynt weld manylion ei thatŵ unigryw a chysylltu gyda’r heddlu.

Daw hyn yn dilyn lansiad apêl gan heddluoedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen ar y cyd ag Interpol ym mis Mai. 

Roedd Operation Know Me yn ceisio adnabod 22 o fenywod y credir eu bod wedi cael eu llofruddio.

Cerdyn post

Y cyswllt diwethaf a gafodd Ms Roberts â’i theulu oedd trwy gerdyn post ym mis Mai 1992. 

Cafwyd hyd i’w chorff y mis canlynol. Roedd hi'n 31 oed ar y pryd.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad: “Roedd y newyddion yn ysgytwol ac yn dorcalonnus. Cafodd ein chwaer angerddol a chariadus ei chymryd wrthon ni yn greulon.

“Does dim geiriau i fynegi’n wirioneddol y galar roedden ni’n ei deimlo bryd hynny, ac yn dal i deimlo heddiw.

“Er bod y newyddion wedi bod yn anodd ei brosesu, rydym yn hynod ddiolchgar ein bod wedi darganfod beth ddigwyddodd i Rita.

“Rydyn ni’n ei cholli hi’n fawr ond rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth a gofal rhagorol Pobl Ar Goll Gwlad Belg, Heddlu Antwerp, Interpol a Heddlu Durham yn y DU."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.