Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dychwelyd i'r brifddinas wedi 42 o flynyddoedd
Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dychwelyd i'r brifddinas wedi 42 o flynyddoedd
Y paratoadau munud olaf.
A'r cerdd dantwyr yma wrthi'n perffeithio pob nodyn.
Maen nhw'n barod i groesawu'r Ŵyl Gerdd Dant i'r brifddinas. Dyma'r ail dro i'r ŵyl gael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Ddigwyddodd hynny ddiwetha 42 o flynyddoedd yn ôl felly mae 'na hen edrych ymlaen.
Dydy'r ŵyl ddim 'di bod yng Nghaerdydd ers 1981 mae 'di bod yn amser maith.
Mae 'di bod yn gyffrous iawn i gael yr ŵyl yma yn y brifddinas. Criw bach ohonon ni fel pwyllgor ond criw andros o brysur er mwyn, gobeithio, rhoi'r profiad gorau i bawb sy'n dod.
O ganu unawdau, i lefaru i ddawnsio gwerin mae disgwyl cannoedd o gystadleuwyr i heidio i Goleg Caerdydd a'r Fro fory.
Yn eu plith, Côr Merched Ystum Taf. Côr cerdd dant sydd wedi ei sefydlu yn unswydd ar gyfer yr ŵyl unigryw hon.
Ddechreuon ni'r côr wythnos gynta mis Medi fe ddechreuon ni yn yr adran ddrama cyn ffeindio bod yr adran ddrama yn rhy fychan i ni a dw i'n meddwl bod ni efo rhyw gant ac ugain o aelodau erbyn hyn ac fel o'n i'n deud be sy'n bwysig ydy bod pawb sydd isho cymryd rhan yn cael cymryd rhan.
Hen grefft a'i gwreiddiau'n dyddio nôl canrifoedd yw cerdd dant.
Mae un hyfforddwraig yn rhybuddio am ddyfodol yr arddull.
Mae'n rhaid hybu traddodiadau ac esblygu'r traddodiad. Os nad y'n ni'n mynd i wneud hyn yn gyson, mae'n mynd i farw.
Mae'n rhan o'n traddodiad ni, yn rhan gynhenid ohonon ni. Rhaid i ni gadw fe i fynd a phwy bynnag sy'n gallu arbrofi neu wneud pethau gwahanol i ennyn diddordeb, gorau gyd.
Ond faint o ddiddordeb sydd gan bobl ifanc mewn canu barddoniaeth i diwn y delyn?
Ti'n gallu dewis yr alaw, yn enwedig pan mae rhywun wedi sgwennu i ti. Falle mae'n fwy jazzy neu fwy clasurol, cerdd dant.
Mae gymaint o genres gwahanol. Oes lot o bobl ifanc yn mwynhau cerdd dant? Mae cymysgedd o bobl ifanc a phobl hŷn. Mae lot o ffrindiau fi yn cystadlu maen nhw'n rili mwynhau cerdd dant.
Os chi'n meddwl dod i'r Ŵyl Gerdd Dant sy'n digwydd fan hyn falle bod hi'n syniad i ddod ag un o'r rhain.
Mae'r trefnwyr am i'r cystadleuwyr a chefnogwyr ddod a brwsh dannedd a hynny mewn partneriaeth a chanolfan Huggard canolfan sy'n cefnogi pobl ddigartref Caerdydd.
Y gobaith yw bydd y rhain yn helpu pobl sy'n defnyddio eu cyfleusterau.
Mae Canolfan Huggard nid nepell o'r coleg. Chwarae ar y gair cerdd dant a meddwl am frwshys dannedd sy'n rhwydd i bawb i ddod.
A hefyd, mae'n rhywbeth da i bobl ddigartref i gael brwsh dannedd i lanhau eu dannedd.
Mae hwnna'n rhywbeth mawr
i bobl digartref.
Mae'n un o draddodiadau
cynhenid y Cymry a pharhad y grefft yn hollbwysig
i'r rheiny fydd yno yfory.
Mae'r ddinas yn barod am y cystadlu,
a sain y delyn yn siŵr o daro tant.