Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth

14/11/2023

Pryder am ddyfodol Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth

Video Player is loading.
Current Time 0:00
Duration 0:00
Loaded: 0%
Stream Type LIVE
Remaining Time 0:00
 
1x
    • Chapters
    • descriptions off, selected
    • subtitles off, selected

      Fe gafodd CAT fel mae'n cael ei alw ei sefydlu union hanner can mlynedd yn ôl gan bobl oedd o flaen eu hamser.

      Yn ofidus am effaith tanwyddau ffosil ro'n nhw'n defnyddio ynni gwynt a solar yn arloesi mewn meysydd a fyddai'n dod yn rhan o'r brif ffrwd.

      Mi fydd y bobl hyn yn cynhyrchu eu hynni eu hunain.

      Mi fyddan nhw'n cael dŵr poeth a gwres i'r tai allan o belydrau'r haul.

      Ers canol y saithdegau mae'r ganolfan wedi bod yn atyniad i ymwelwyr a chynnig addysg
      a hyfforddiant amgylcheddol ond mae costau cynyddol a llai o ymwelwyr i Gymru yn golygu nad yw'r ganolfan groeso yno yn gynaliadwy.

      Mae e ar gau nawr i ymwelwyr dydd ond mae dal modd bwcio ymweliad grŵp ymlaen llaw.

      Mae 'na beryg i 14 o swyddi.

      Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar Gyngor Powys: "Yn amlwg yn siomedig mewn difri calon.

      "Mae 14 o swyddi yn bwysig iawn yn ardal wledig fel Dyffryn Dyfi ond ddim yn hollol annisgwyl,
      wrth gwrs.

      "'Dan ni'n gwybod bod nhw wedi bod yn disgwyl ers hydoedd am fuddsoddiad sylweddol
      i ail-wneud y ganolfan."

      Mae gweithgareddau addysg CAT yn parhau.

      Does dim newid i'r cyrsiau amgylcheddol ôl-radd na chwaith i'r cyrsiau byrrach.

      Un ffactor arall yn y penderfyniad i gau'r ganolfan groeso yw oedi cyn derbyn cyllid.

      Mae CAT wedi gwneud cais am arian Bargen Twf y Canolbarth i ddatblygu'r safle, sy'n cynnwys
      gwella'r ganolfan groeso.

      Ychwanegodd y Cynghorydd Vaughan: "'Dan ni wedi clywed ers blynyddoedd bellach am gynlluniau Twf y Canolbarth dros Bowys a Cheredigion sef adnoddau yn dod o Lywodraeth San Steffan a Chaerdydd.

      "Dw i'n gwybod o drafodaethau blaenorol fod y broses ymgeisio am yr arian
      yn drybeilig o fiwrocrataidd ac yn anodd ac yn gostus. Mae o'n golygu buddsoddiad sylweddol
      i ddatblygu cynlluniau.

      "Mae hi'n broses sydd wedi cyrraedd pwynt ffars, dw i'n teimlo."

      Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd cynghorau Powys a Cheredigion nad oes unrhyw brosiect wedi
      derbyn cyllid Bargen Twf eto gan fod y prosiectau yn dal i weithio ar achosion busnes.

      Ychwanegodd arweinwyr y cynghorau eu bod yn pryderu am gau'r ganolfan groeso a'r effaith bosib ar unigolion a'r gymuned ehangach.

      Newyddion diweddaraf

      Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.