Cyhoeddwyr papurau newydd yn ymddiheuro i Ddug Sussex
Mae cwmni papurau newydd wedi rhoi 'ymddiheuriad llawn a diamod' i Ddug Sussex am ymchwilio i'w fywyd preifat.
Mae'r Dug wedi dirwyn ei achos llys yn erbyn cyhoeddwyr 'The Sun' a'r 'News of the World' i ben yn sgîl yr ymddiheuriad. Yn ogystal mae wedi derbyn 'iawndal sylweddol' gan y cwmni.
Roedd yr achos llys i fod i gychwyn yn yr Uchel Lys yn Llundain yr wythnos yma.
Yn eu datganiad, dywedodd News Group Newspapers eu bod eisiau ymddiheuro am gamymddwyn 'difrifol' papur newydd 'The Sun' rhwng 1996 a 2011 wrth iddyn nhw ymchwilio i fywyd preifat y Dug.
Mae nhw wedi cyfaddef fod ymchwilwyr preifat oedd yn gweithio i'r papur wedi bod yn gyfrifol am "weithgareddau anghyfreithlon".
Yn ogystal, mae nhw'n cydnabod fod newyddiadurwyr ac ymchwilwyr oedd yn gweithio i'r 'News of the World' (ddaeth i ben yn 2011) wedi hacio ffonau a chamddefnyddio gwybodaeth breifat am y Dug. Mae nhw hefyd wedi ymddiheuro am yr effaith gafodd eu gweithgareddau ar ei ddiweddar fam, y Dywysoges Diana.
Wedi'r achos, dywedodd bargyfreithiwr Dug Sussex, David Sherborne fod yr ymddiheuriad yn "fuddugoliaeth anferth" i'r cannoedd o bobl sy'n honni i'w ffonau gael eu hacio gan y papurau newydd.
Mae cwmni NGN wedi talu miliynau o bunnau i'r bobl yma fel rhan o gytundebau sy'n golygu nad ydi union natur yr honiadau yn erbyn y papurau wedi cael eu clywed mewn achosion llys.
"O'r diwedd, mae News Group wedi cael eu dal i gyfri am eu gweithgareddau anghyfreithlon, a'r modd y gwnaethon nhw ddiystyru'r gyfraith yn llwyr," meddai Mr Sherborne.
Dywedodd heddlu Scotland Yard eu bod nhw'n "ymwybodol" o'r cytundeb rhwng y Dug a'r cwmni, a'u bod yn aros am ohebiaeth pellach cyn penderfynu a fyddan nhw'n cymryd camau pellach.