Newyddion S4C

Storm Éowyn: Rhybuddion melyn ac oren i Gymru ddydd Iau a Gwener

Rhybudd melyn ac oren

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i orllewin Cymru ddydd Iau a rhybudd oren yn y gogledd ddydd Gwener.

Bydd y rhybudd melyn ddydd Iau yn dod i rym am 7:00 ac yn dod i ben am 18:00.

Bydd glaw trwm yn disgyn yn y gorllewin cyn symud ar draws i’r dwyrain, yn ogystal â 4-5 awr o wyntoedd cryfion.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd gyrraedd 50-60 mya dros arfordiroedd a bryniau agored.

Bydd y gwyntoedd yn cyrraedd ardaloedd gorllewinol yn ystod y bore, cyn lleddfu yn ystod y prynhawn.

Bydd ardaloedd dwyreiniol yn gweld gwyntoedd ar eu hanterth yn ystod y prynhawn.

Bydd y rhybudd  yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Fynwy
  • Castell-Nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Bro Morgannwg

 

Rhybudd Oren

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn y gogledd ddydd Gwener.

Mae disgwyl i Storm Éowyn ddod â gwyntoedd cryfion ac aflonyddwch eang ddydd Gwener rhwng 06:00 a 21:00.

Mae toriadau pŵer yn debygol o ddigwydd, gyda'r peryg y gallai effeithio ar wasanaethau eraill, megis signal ffonau symudol.

Mae gwasanaethau ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi yn debygol o gael eu heffeithio, gydag amseroedd teithio hirach a chanslo'n bosibl. Mae perygl y gallai rhai ffyrdd a phontydd gau.

Mae siawns y gallai difrod i adeiladau a chartrefi ddigwydd, ac fe allai effeithio ar gyflenwadau trydan.

Bydd y rhybudd oren ddydd Gwener yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.