Dartiau: 'Yma o Hyd' yn ysbrydoli'r Cymro Rob Owen ym Mhencampwriaeth y Byd
Dartiau: 'Yma o Hyd' yn ysbrydoli'r Cymro Rob Owen ym Mhencampwriaeth y Byd
Ychydig dros fis ers rhediad anhygoel y Cymro Rob Owen i gyrraedd rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd, mae e wedi bod yn trafod yr hyn sydd yn ei ysbrydoli.
Cafodd ei gynnwys yn y gystadleuaeth ar y funud olaf ar ôl i Dom Taylor gael ei wahardd rhag cystadlu.
Doedd dim disgwyl i Rob Owen fynd heibio'r rownd gyntaf, ond fe synnodd pawb drwy gyrraedd rownd yr 16 olaf.
Yn ystod ei fuddugoliaeth yn y drydedd rownd, fe waeddodd 'Yma o Hyd' ar y llwyfan.
Mae'r gân gan Dafydd Iwan eisoes yn boblogaidd gyda chefnogwyr pêl-droed Cymru a chefnogwyr tîm rygbi'r Scarlets, ac yn cael ei chanu yn ystod gemau.
"Roedd 'Yma o Hyd' yn gymhelliant i mi. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn addas i'w weiddi, pam ddim?" meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd yn rhywbeth addas i'w ddweud achos roeddwn i dal yno. Dim yno tan y diwedd ond yno tan oeddwn i eisiau bod.
"Roeddwn i'n siarad gyda Polly James ac Abigail Davies (cyflwynwyr dartiau Cymreig) ac roeddwn ni eisiau newid fy nghân cerdded ymlaen i Yma o Hyd, ond dydw i ddim yn credu byddai hynny wedi bod yn syniad da yn y diwedd oherwydd y dorf Saesneg.
"Fe fyddai siŵr o fod wedi troi nhw yn fy erbyn hyd yn oed yn fwy.
Inline Tweet: https://twitter.com/PollyJames/status/1873471520204603665
"Dwi'n Gymro balch, ac roedd yn beth anferth i mi gael y gefnogaeth gan y Cymry yn y dorf. Doedd dim llawer ohonyn nhw yn y dorf o filoedd ond roeddwn i'n ffocysu arnyn nhw.
"Dwi'n cynrychioli fy hun, fy nheulu ac wrth gwrs Cymru."
'Cadw statws proffesiynol'
Mae Rob Owen, sy'n 40 oed yn byw yng Nghwm Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bellach mae'n rhif 58 yn y byd ar restr detholion y PDC. Er hynny ym Mhencampwriaeth y Byd roedd angen sawl buddugoliaeth arno er mwyn cadw ei garden gylchdaith, sef ei statws proffesiynol.
Mae'r 64 chwaraewr uchaf ar y rhestr ddetholion yn ennill carden yn awtomatig. Roedd Rob Owen angen tair buddugoliaeth er mwyn sicrhau hynny.
"Roedd e'n anodd gwybod bod angen cymaint o fuddugoliaethau arna i, ond roeddwn i'n ceisio peidio meddwl am hynny," meddai.
"Bob tro roeddwn i'n dweud wrth fy hun 'os wyt ti'n chwarae'n dda byddi di'n ennill'. Pan dwi ar fy ngorau dwi'n gwybod gallai ennill yn erbyn unrhyw un ar y blaned."
Gyrrwr lori
Er ei fod yn chwaraewr proffesiynol, mae Rob yn gweithio rhan amser fel gyrrwr lori i archfarchnad.
Cafodd ei swydd dipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol pan gamodd cyd-weithiwr a ffrind Rob Owen, Derek i weithio yn ei le er mwyn iddo allu chwarae yn rownd yr 16 olaf.
"Mae Derek wedi dod yn bach o meme nawr, mae llawer yn dweud 'byddwch mwy fel Derek'.
"Roedd yr holl sylw yn bach o sbort. Mae'n dangos nid yw pob un chwaraewr dartiau yr un peth, rydym yn bobl normal ar ddiwedd y dydd, mae rhai ohonom yn gweithio."
Bellach mae gan Rob fan a chrys ei hun sydd wedi eu personoleiddio ac yn dathlu ei lwyddiant ym Mhencampwriaeth y Byd.
Pencampwr y byd?
Ers i Luke Littler hawlio'r penawdau trwy ennill Pencampwriaeth y Byd yn 17 oed mae nifer y plant a phobl ifanc sydd wedi dechrau chwarae dartiau wedi cynyddu'n sylweddol.
Mae nifer yr academïau JDC, mudiad ieuenctid corff llywodraethu'r PDC wedi dyblu ac mae llawer mwy o gystadlaethau yn cael eu cynnal.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae'r JDC wedi sefydlu academi yng nghaffi 25BullBull. Mae Rob yn ffyddiog y bydd yna ragor o bencampwr y byd Cymreig yn y dyfodol.
"Mae llawer o dalent Gymreig, yn enwedig pobl ifanc, a does dim llawer wedi clywed amdanyn nhw, neu mae pobl ond yn eu hadnabod yn lleol.
"Mae gan Gymru lawer o dalent yn y byd dartiau, a hir oes i hynny.
"Dwi'n meddwl bydd gennym ni fwy o bencampwyr y byd.. gobeithio fi, yn y dyfodol."
Prif lun: PDC