Newyddion S4C

Llofruddiaethau bwa croes: Dyn yn cyfaddef iddo ladd mam a'i dwy merch

Carol Hunt

Mae dyn 26 oed a laddodd gwraig a merched sylwebydd rasio y BBC John Hunt gyda chyllell a bwa croes wedi pledio'n euog i lofruddio.

Clymodd Kyle Clifford ei gyn bartner Louise Hunt, 25 oed, a’i saethu drwy ei brest gyda bollt bwa croes yng nghartref y teulu yn Ashlyn Close, Bushey, Sir Hertford, ym mis Gorffennaf.

Dioddefodd mam Ms Hunt, 61 oed, Carol Hunt, anafiadau trywanu i'w phen-glin, ei dwylo, ei chefn a'i chorff yn dilyn ymosodiad Clifford gyda chyllell 10 modfedd.

Cafwyd hyd i'r chwaer arall, Hannah Hunt, 28, ym mhrif ddrws y tŷ gyda bollt bwa croes yn ei brest ac roedd yn dal yn fyw pan gyrhaeddodd yr heddlu’r eiddo tua 19:00 ar 9 Gorffennaf.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw gan Hannah Hunt, a ddywedodd wrth swyddogion ei bod yn ofni ei bod yn mynd i farw a bod ei chwaer a’i mam hefyd wedi dioddef ymosodiad.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i Kyle Clifford oriau yn ddiweddarach ym Mynwent Lavender Hill yn Enfield, gogledd Llundain. Roedd wedi ei saethu ei hun yn ei frest gyda’r bwa croes.

Wrth ymddangos dros gyswllt fideo yn Llys y Goron Caergrawnt ddydd Mercher, plediodd Clifford yn euog i dri chyhuddiad o lofruddiaeth, un o garcharu Louise Hunt, a dau gyhuddiad o fod ag arfau bygythiol yn ei feddiant – y bwa croes a’r gyllell.

Plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o dreisio Louise Hunt.

Bydd Clifford yn wynebu achos llys am gyhuddiad o dreisio yn yr un llys yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper yn ystyried ar frys a oedd angen deddfau llymach ar fwâu croes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.