Penodi Fay Jones yn Is-ysgrifennydd Cymru
Mae'r AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Maesyfed Fay Jones wedi cael ei phenodi yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru.
Daw'r newid wedi i Rishi Sunak ad-drefnu ei gabinet ddydd Llun, pan gafodd Suella Braverman ei diswyddo fel Ysgrifennydd Cartref a'r cyn Brif Weinidog David Cameron yn ôl wrth fwrdd y Cabinet ar ôl ei benodiad annisgwyl fel Ysgrifennydd Tramor.
Bydd Ms Jones yn olynu James Davies, yr Aelod Seneddol dros Dyffryn Clwyd, a gafodd ei benodi fis Hydref 2022.
David TC Davies fydd yn parhau fel yr Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/UKGovWales/status/1724368483704582533?s=20
Cafodd Fay Jones ei hethol yn AS dros Frycheiniog a Maesyfed yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ym mis Rhagfyr 2019, ac mae'n byw yn ei hetholaeth ger Crucywel.
Fe allai tensiynau gael eu cynyddu ymhellach o fewn y blaid Geidwadol ddydd Mercher, pan fydd y Goruchaf Lys yn rhoi ei ddyfarniad ar bolisi lloches Rwanda sy’n ganolog i addewid Mr Sunak i “atal y cychod” rhag croesi’r Sianel.