Newyddion S4C

Cynnal gwrandawiad parôl i un o lofruddwyr James Bulger

14/11/2023
Bulger/Venables

Fe fydd gwrandawiad parôl ar gyfer un o lofruddwyr James Bulger yn cael ei gynnal y tu ôl i ddrysau caeedig dros y ddau ddiwrnod nesaf.

Mae'r gwrandawiad yn cael ei gynnal i benderfynu a all Jon Venables gael ei ryddhau ar ôl ei ddedfryd ddiweddaraf am fod â delweddau cam-drin plant yn ei feddiant, i gael ei gynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Dyfarnodd Cadeirydd Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr Caroline Corby y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat, er mwyn cydymffurfio gyda gorchymyn cyfreithiol  sy’n gwahardd adnabod Venables yn gyhoeddus.

Mae perthnasau James, oedd yn ddwy oed pan gafodd ei ladd, hefyd wedi’u gwahardd rhag mynychu, er y bydd datganiadau effaith ar ddioddefwyr yn cael eu darllen fel rhan o’r gwrandawiad.

Mewn cyfweliad gyda The Mirror, galwodd ei fam Denise ar y panel i gadw Venables dan glo.

Dywedodd wrth y papur newydd: “Rhaid i mi gael gobaith. Rwy'n credu y bydd y penaethiaid parôl yn gweld yr hyn y mae'r dyn hwn yn gallu ei wneud, yr hyn y gallai ei achosi i gymdeithas.

“Os caiff ei barôl ei wrthod, byddwn yn llawenhau. Mae wedi bod yn daith mor hir. Mae James yn haeddu’r cyfiawnder hwnnw.”

Cafodd Venables ei garcharu gyda Robert Thompson ym mis Tachwedd 1993 pan yn 10 oed am lofruddio James Bulger yn Lerpwl.

Cafodd ei ryddhau ar drwydded ym mis Gorffennaf 2001, cyn cael ei alw’n ôl i’r carchar ym mis Chwefror 2010 ar ôl i ddelweddau anweddus o blant gael eu darganfod ar ei gyfrifiadur.

Cafodd ei ryddhau eto ym mis Awst 2013, ac yna ei alw yn ôl ym mis Tachwedd 2017 am yr un drosedd.

Cynhaliwyd ei adolygiad parôl diweddaraf ym mis Medi 2020.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.