Newyddion S4C

Galw ar lywodraethau i 'gyflymu'r broses' wrth ystyried cynlluniau ynni adnewyddadwy

13/11/2023
Tamsyn Rowe

Mae angen i Lywodraethau ‘gyflymu’r broses’ o ystyried cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau sero net, medd cwmni yn y maes.

Yn ôl RWE sy’n gyfrifol am un o gynlluniau mwyaf ynni adnewyddadwy yng Nghymru y ddegawd hon mae angen taro ‘cydbwysedd yn gynt’ os am sicrhau amgylchedd gwyrddach. 

Mae’r cwmni newydd dderbyn caniatâd cynllunio i godi rhwng 34-50 o dyrbinau gwynt 10km oddi ar arfordir y gogledd, ‘Awel y Môr’, fydd â’r gallu i bweru dros hanner cartrefi Cymru gan greu cannoedd o swyddi. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae deddf newydd isadeiledd yn symleiddio a chyflymu’r broses i gymeradwyo cynlluniau tebyg.

Dywedodd Llywodraeth Prydain bod y cynlluniau yn sicrhau bod modd i “fwrw ymlaen” â’r uchelgais o greu hyd at 50GW o wynt oddi ar y môr erbyn 2030.

Gyda chynllun Awel y Môr wedi derbyn caniatâd cynllunio gan Lywodraeth Prydain mae’r gwaith rŵan yn dechrau i dyllu i wely’r mor er mwyn ystyried ansawdd y tir adeiladu. 

Mae’n gam sylweddol i’r datblygiad fydd yn cael ei leoli i’r gorllewin o fferm wynt bresennol ‘Gwynt y Mor’ oddi ar arfordir Sir Conwy. 

Fe ddechreuodd gwaith ar y cynllun yn 2017 a does dim disgwyl iddo gynhyrchu ynni tan oleiaf 2030 gyda galw bellach i gyflymu’r broses. 

Image
Ynni adnewyddadwy
Llun o gwch sydd bellach yn tyllu oddi ar arfordir y gogledd

“Bydden ni yn annog Llywodraethau i edrych ar ffyrdd i gyflymu’r broses”, meddai Tamsyn Rowe Arweinydd Prosiect Awel y Mor, RWE. 

“Fel bob dim mae’n gyd-bwysedd i sicrhau fod y broses gynllunio yn drwyadl a bod ymgynghori digonol ac yna cydbwyso hynny hefo yr argyfwng hinsawdd”. 

Fe gafodd y cynllun ei leihau yn sylweddol o’r bwriad gwreiddiol i godi rhyw 100 o dyrbinau a hynny oherwydd pryderon lleol. 

Mae’r cwmni’n dweud y bydd y cynllun newydd yn creu cannoedd o swyddi i bobl leol yn lleol ac yn y rhwydwaith gyflenwi. 

Mae hynny eisoes yn wir i Jordan Eade  sydd newydd ddechrau ar brentisiaeth gyda’r cwmni. 

“Mae’n bwysig imi fyw a gweithio’n lleol a does dim gymaint o gyfle i gael swyddi fel hyn yn lleol”, meddai. 

“Mae’n grêt cael y cyfle i neud hwn efo RWE i weithio ar y tyrbinau”. 

Image
Jordan Eade
Jordan Eade, Prentis flwyddyn gynta' RWE

Mae’n freuddwyd iddo ers eistedd yn ei wersi Ffiseg yn yr ysgol a bydd rŵan yn dysgu sgiliau i gynnal a chadw’r is-adeiledd. 

Mae’r cynllun, fydd yn darparu ynni i gannoedd ar filoedd o gartrefi, yn rhan o uchelgais ehangach Llywodraeth Cymru a Phrydain i sicrhau cyflenwadau eco-gyfeillgar a chynaliadwy. 

Ond mae’r galw i gyflymu’r broses o gymeradwyo neu ystyried ceisiadau tebyg yn cael ei atseinio gan arbenigwr blaenllaw yn y sector. 

 “Bob amser mae ystyriaethau ond mae’n rhaid cyflymu y gosodiadau yma”, meddai Gerallt Llewelyn Cyfarwyddwr Cynllun Ynni Morlais.

“A hefyd amlhau y mathau o ynni ‘da ni’n defnyddio”.

“Dwi’n meddwl fod angen amlhau y mathau o ynni adnewyddol da ni angen hefyd.”.

“Mae cynllunio yn mynd i arafu y broses a ffeindio’r balans yn bwysig iawn ac mi fasa ffeindio’r balans yn gynt rhwng yr amgylchedd a’r angen ynni yn braf iawn i weld”.

Image
Gerallt Llewelyn
Gerallt Llewlyn, Cyfarwyddwr Cynllun Ynni Morlais

Dywedodd llefarydd a ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar ddiwygiadau gweithredol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs), a oedd yn cynnwys sawl cynnig i sefydlu llwybr cyflym at sicrhau caniatâd.

“Bydd ein hymateb i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi maes o law,” meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod deddf newydd isadeiledd yn symleiddio a chyflymu’r broses i gymeradwyo cynlluniau tebyg.

“Ma’n polisi cynllunio yn hynod gefnogol i brosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu cynllunio’n dda”.

“Mae deddf isadeiledd newydd yn cynnig proses cymeradwyo newydd sy’n symleiddio a chyflymu”.

Prif lun o Tamsyn Rowe, Arweinydd Prosiect Awel y Mor, RWE

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.