Cynnal ymgynghoriad i 'ddiwygio' treth y cyngor
Bydd ymgynghoriad ar ddulliau posib o ailgynllunio system treth y cyngor yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn rhan o gynllun cyntaf o'i fath ers degawd.
Bwriad y cynlluniau yw gwneud treth y cyngor yn “decach,” yn ôl Llywodraeth Cymru, gyda’r ymgynghoriad yn holi barn pobl am ffyrdd o gyflawni hynny.
Fe allai hyd at 450,000 o dai weld cynnydd yn eu biliau treth cyngor o dan y cynlluniau newydd.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn trafod y potensial o ychwanegu bandiau treth y cyngor newydd i bob un o’r 1.5 miliwn cartrefi yng Nghymru, yn ogystal â’r posibilrwydd o newid y cyfraddau treth. Bydd hefyd yn gofyn pa mor gyflym y byddai pobl yn hoffi gweld y newidiadau yma’n cael eu gweithredu.
Mae treth y cyngor yn talu am oddeutu 20% o wariant cynghorau, ond mae’r system wedi dyddio, meddai’r llywodraeth, a hynny’n cyfrannu at "anghydraddoldeb cyfoeth."
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau am 10.00 fore Fawrth. A diben yr ailbrisio yw ail-gydbwyso’r dreth sy’n daladwy rhwng aelwydydd, medd Llywodraeth Cymru.
Y tro diwethaf i ailbrisio o’r fath digwydd yng Nghymru oedd yn 2003, ac mae gwerth eiddo cyfartalog wedi cynyddu 150% ers hynny.
Beth yw'r newidiadau?
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad pwrpas y cynlluniau yw cynyddu refeniw, ac nad oes disgwyl i 50% o aelwydydd weld gwahaniaeth i’w treth y cyngor.
Ond mae disgwyl i 25% o aelwydydd brofi cynnydd yn eu treth y cyngor, gyda 25% pellach yn profi gostyngiad.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cydnabod y gallai’r ail-gydbwyso greu canlyniadau “anfwriadol”, fel cynyddu’r baich ariannol ar aelwydydd incwm isel sydd bellach yn byw mewn eiddo â gwerth uwch.
Mae'r ymghyngoriad gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.