Newyddion S4C

Rhybudd y gallai diabetes effeithio ar un o bob 11 person yng Nghymru erbyn 2035

14/11/2023

Rhybudd y gallai diabetes effeithio ar un o bob 11 person yng Nghymru erbyn 2035

Wrth nodi Diwrnod Diabetes y Byd ddydd Mawrth, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai oddeutu un o bob 11 oedolyn yng Nghymru gael eu heffeithio gan y cyflwr erbyn 2035. 

Fel rhan o raglen i atal diabetes math 2 rhag datblygu, mae'r sefydliad iechyd yn annog unigolion i gydweithio gydag arbenigwyr meddygol er mwyn gwneud penderfyniadau er lles eu hiechyd. 

Mae dros 20,000 o bobl eisoes yn byw gyda diabetes yng Nghymru, ac mae oddeutu 90% o’r rheiny yn byw gyda diabetes math 2. 

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai dros hanner o’r achosion yma gael eu hatal neu eu hoedi drwy newidiadau i ffordd o fyw. 

Ond petai i’r tuedd presennol parhau, fe allai hyd at 48,000 o bobl ychwanegol fyw gyda’r clefyd erbyn 2035, sef cynnydd o 22% o gymharu â 2021/22.

Byddai’r math yma o gynnydd yn rhoi pwysau ychwanegol “sylweddol” ar wasanaethau iechyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio.

Gwariwyd £105 miliwn ar gyffuriau i reoli diabetes yng Nghymru yn 2022/23.

‘Annisgwyl’

Cafodd Darren Rix, 50 oed o Bontardawe, ddiagnosis cyn-ddiabetig (diabetes math 2) ar ôl iddo dderbyn prawf gwaed, a hynny wedi i brawf llygaid dynnu sylw at newid i un o’i lygaid.

“Roedd yn gwbl annisgwyl,” meddai. 

"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol mae diabetes yn gallu bod.

"Mae'n debyg bod yna bobl allan yna nad ydynt yn sylweddoli y gallent fod yn gyn-ddiabetig.

"Dwi ddim yn gwybod sawl blwyddyn roeddwn i wedi bod yn gyn-ddiabetig ac mae'n debyg y byddwn i'n dal i fod nawr heb yr ymyriad.” 

Fe gafodd Darren apwyntiad gyda thîm y Rhaglen Atal Diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fu'n ei annog i wneud mwy o ymarfer corff er mwyn colli pwysau. 

"Yn fy apwyntiad diweddaraf fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod yr hyn roeddwn i wedi'i wneud wedi bod yn wych ac roeddwn i wedi dod â fy mhwysau i lawr," meddai.  

"Dywedwyd wrthyf nad wyf bellach yn gyn-ddiabetig ac y dylwn barhau i wneud yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud.”

‘Peri pryder’

Mae diabetes math 2 yn un o brif achosion colli golwg ac fe all gyfrannu at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. 

Ond ers ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, mae’r rhaglen atal diabetes wedi cynnig cymorth i dros 3,000 o bobl ledled Cymru.

Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, sydd yn ymgynghorydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bu cynnydd o 40% yn nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru mewn cyfnod sydd ychydig dros y 10 mlynedd diwethaf - cynnydd o 60,000 o bobl.  

“Yn 2021/22 yn unig, cafodd dros 560 o bobl yng Nghymru drychiadau a oedd yn gysylltiedig â diabetes. 

“Felly, mae'r nifer cynyddol o achosion o ddiabetes math 2 yn peri pryder mawr o ran iechyd a llesiant pobl Cymru, yn ogystal â chydnabod y pwysau ychwanegol y mae hyn yn ei roi ar wasanaethau iechyd.

“Ond y newyddion da yw, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau ymddygiad, gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2.  

“Mae'r prif ffactorau risg y gall pobl weithredu arnynt yn cynnwys cael pwysau iachach, bwyta deiet iach a bod yn egnïol yn gorfforol,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.