'Dwi 'di arfer â nadroedd': Nigel Farage i ymuno â chystadleuwyr I’m a Celebrity yn y jyngl
Bydd y gwleidydd Nigel Farage ymhlith yr enwogion fydd yn rhan o gyfres I’m a Celebrity, Get Me Out Of Here eleni.
Cadarnhaodd Mr Farage, 59 oed, nos Lun ei fod am ymddangos yn y jyngl yn Awstralia, wrth i gyfres ITV ddychwelyd ar nos Sul 19 Tachwedd.
Wrth gadarnhau’r newyddion mewn fideo ar ran GB News, dywedodd cyn-arweinydd plaid UKIP a Phlaid Brexit, ei fod “wedi arfer â delio gyda nadroedd ac ymlusgiaid erchyll eraill” yn ystod ei yrfa wleidyddol.
“Maen nhw wedi gofyn i fi ymuno â’r jyngl bob blwyddyn ers 2016 a dwi wastad wedi meddwl, 'nid dyma yw’r amser cywir i fi ‘neud'.
“Ond dwi methu gwneud y flwyddyn nesaf oherwydd yr etholiad cyffredinol, yn ogystal ag etholiad arlywyddol America, felly dwi’n rhydd eleni mewn ffordd,” meddai.
Fe aeth y gwleidydd, sydd bellach yn gyflwynydd ar GB News, ymlaen i ddweud: “Roedd refferendwm Brexit amser maith yn ôl, felly mae ‘na lot o bobl ifanc sydd ddim yn gyfarwydd ‘da fi, neu be’ dwi’n sefyll drosto.
“Dyma fy nghyfle i gyrraedd cynulleidfa fawr iawn o bobl ifanc, a dwi’n tybio y bydd hyn yn rhywbeth positif i mi ac i GB News hefyd.”
Hefyd ymhlith yr enwau fydd yn rhan o’r gyfres eleni mae’r cyn-focsiwr Tony Bellew, yr adolygydd bwyd Grace Dent, y maître d o’r gyfres First Dates Fred Sirieix, a’r canwr Marvin Humes o’r band JLS.
Roedd Mr Farage wedi cael cynnig swm sylweddol o arian i fod yn rhan o’r gyfres, yn ôl yr adroddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran y gyfres y byddai’r rhestr o westeion yn cael ei chadarnhau maes o law, gan ychwanegu mai “dyfalu” oedd unrhyw adroddiadau cyn y cyhoeddiad hwnnw.
Llun: PA