Newyddion S4C

Yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi ei diswyddo wrth i eraill adael y cabinet

13/11/2023
Braverman PA

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi ei diswyddo wrth i Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ad-drefnu ei gabinet.

Yn dilyn ei diswyddo, dywedodd ei bod wedi bod yn "fraint fwyaf fy mywyd i wasanaethu fel ysgrifennydd cartref”, gan ychwanegu: “Bydd gennyf fwy i’w ddweud maes o law.”

Mae Mr Sunak wedi penodi James Cleverly yn Ysgrifennydd Cartref newydd yn ei lle.

Roedd galwadau ar Mr Sunak i ddiswyddo Mrs Braverman ar ôl iddi ysgrifennu erthygl ymfflamychol yn The Times oedd heb dderbyn sêl bendith Rhif 10 Downing Street. 

Dywed ei beirniaid fod yr erthygl honno wedi cyfrannu at greu gwrthdaro rhwng gwrth-brotestwyr adain dde a'r heddlu yn ystod digwyddiad i nodi'r Cadoediad yn Llundain dros y penwythnos.

Roedd ei sylwadau diweddar am y digartref hefyd, gan awgrymu mai dewis "ffordd o fyw" oedd cysgu ar y stryd i nifer, wedi codi gwrychyn ei gelynion gwleidyddol a rhai aelodau o'i phlaid ei hun fel ei gilydd.

Roedd y Blaid Lafur wedi ei chyhuddo o "annog casineb" yn y dyddiau yn arwain at brotest o blaid Palesteina ar Ddydd y Cadoediad.

Fe wnaeth un erthygl papur newydd gyhuddo'r heddlu o ddangos “safonau dwbl” gan ddewis “ffefrynnau” rhwng protestwyr ar drothwy'r orymdaith. 

Cafodd 126 o bobl eu harestio yn ystod ac wedi'r orymdaith yn Llundain ddydd Sadwrn, gyda naw o swyddogion yr heddlu'n dioddef anafiadau.

Image
Braverman PA
Y cyn- Ysgrifennydd Cartref yn ystod digwyddiad i nodi'r Cadoediad yn y Senotaff yn Llundain ddydd Sul

Wrth ysgrifennu yn The Times cyn yr orymdaith o blaid Palesteina, dywedodd Mrs Braverman: “Nid wyf yn credu mai dim ond cri am help i Gaza yw’r gorymdeithiau hyn.

“Maen nhw’n gri o uchafiaeth gan rai grwpiau - yn enwedig Islamwyr - o’r math rydyn ni’n fwy cyfarwydd â’i weld yng Ngogledd Iwerddon. 

"Mae adroddiadau bod gan rai o drefnwyr grwpiau sy'n gorymdeithio ddydd Sadwrn gysylltiadau â grwpiau terfysgol, gan gynnwys Hamas, hefyd yn destun pryder.”

Roedd yr erthygl gan Mrs Braverman yn un o nifer o sylwadau dadleuol gan yr Ysgrifennydd Cartref dros y dyddiau diwethaf.

Dyma'r eilwaith iddi gael ei diswyddo o'r swydd mewn ychydig dros flwyddyn ar ôl i'r prif weinidog blaenorol Liz Truss ei diswyddo am anfon gwybodaeth gyfrinachol i AS gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost personol.

Wrth ymateb i'r diswyddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y cam yn adlewyrchiad o "ddiffyg arweinyddiaeth" Rishi Sunak ynghyd â dawn Suella Braverman i gorddi'r dyfroedd yn ystod ei chyfnod fel ysgrifennydd cartref.

Wrth i Rishi Sunak ad-drefnu ei gabinet, cyhoeddodd Downing Street brynhawn Llun bod yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Therese Coffey yn gadael ei rôl yn y cabinet.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Ms Coffey mai nawr oedd yr "amser cywir i gam nôl o'r llywodraeth" 

Ychwanegodd: “Rwy'n edrych ymlaen i'ch cefnogi o'r meinciau cefn, a chydweithio er mwyn sicrhau mwyafrif Ceidwadol yn yr etholiad nesaf." 

Steve Barclay yw olynydd Therese Coffey yn adran yr amgylchedd wedi iddo gael ei symud o'i rôl fel Ysgrifennydd Iechyd ar gyfer Lloegr. Victoria Atkins yw'r Ysgrifennydd Iechyd newydd bellach.  A Richard Holden yw cadeirydd newydd y Blaid Geidwadol. 

Mae Laura Trott wedi ei phenodi'n Brif Ysgrifennydd y Trysorlys.

Cyhoeddodd Jeremy Quin ei fod yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Talfeistr Cyffredinol. 

Dywedodd ei fod wedi penderfynu "camu nôl " er mwyn canolbwyntio ar ei etholaeth yn Horsham. 

Ac mae'r Gweinidog Gwyddoniaeth George Freeman wedi dweud ei fod yn ymddiswyddo o'r llywodraeth. Ychwanegodd ei fod yn gwneud hynny gyda "chalon drom" 

Ac yn is adrannau'r llywodraeth mae Will Quince a Neil O’Brien wedi gadael eu rôl fel gweinidogion iechyd, ac mae'r Gweinidog Ysgolion Nick Gibb wedi gadael ei swydd yn ogystal â Jesse Norman sydd wedi gadael yr Adran Drafnidiaeth.   

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.