Dechrau troi hen gapel yn ganolfan dreftadaeth, caffi, a fflatiau fforddiadwy yn Sir Benfro
Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu hen gapel yn Hermon yn Sir Benfro, i fod yn ganolfan dreftadaeth, caffi, a fflatiau fforddiadwy.
Mae’r gymuned ar fin prynu adeilad yr hen gapel rhwng Crymych a Llanfyrnach ac mae CarTrefUn wedi dechrau ar y prosiect o ddatblygu’r safle er budd y gymuned.
Mae’r datblygiad yng Nghapel Brynmyrnach yn cael ei ariannu gan ymdrechion pobl leol a grant £12,500 Project Perthyn gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y cydlynydd Prosiect Perthyn, Cris Tomos: “Mae hi mor bwysig bod cymunedau lleol yn cael y cyfle i gadw a defnyddio asedau lleol ar gyfer mentrau lleol fel cynllun yr hen gapel yn Hermon ac i sicrhau bod yr asedau cymunedol yma i aros i genedlaethau’r dyfodol.”
Caeodd y capel ym mis Medi y llynedd gyda dros 60 o bobol yn mynd i'r gwasanaeth olaf.
'Gwahaniaeth'
Mae CarTrefUn wedi penodi swyddogion prosiect, creu cynlluniau pensaernïol ac archwiliadau safle er mwyn datblygu’r ganolfan newydd.
Nod y grant gan Lywodraeth Cymru yw helpu i greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy o dan arweiniad y gymuned gan gefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Pan fydd capel yn cau, mae’n aml yn golygu bod canolfan gymunedol bwysig yn cael ei cholli. Mae’n braf gallu cefnogi’r fenter gyffrous hon a sicrhau y bydd cyfleoedd i bobl fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg.
"Mae creu tai fforddiadwy yn gwneud gwahaniaeth mawr i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg.”