Dod a thriniaeth cynnal bywyd babi i ben ar ôl brwydr gyfreithiol
Mae arbenigwyr wedi penderfynu dod a thriniaeth cynnal bywyd merch fach ddifrifol wael i ben, yn ôl grŵp ymgyrchu sy’n cefnogi ei rhieni.
Roedd Dean Gregory a Claire Staniforth o Ilkeston, Swydd Derby wedi gobeithio y byddai arbenigwyr yn parhau i drin eu merch wyth mis oed Indi Gregory sy’n dioddef o afiechyd mitocondriaidd.
Ond collodd y cwpwl, sy'n cael eu cefnogi gan yr ymgyrchwyr Christian Concern, achosion yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl yn Llundain.
Roedd barnwr yr Uchel Lys, Ustus Peel, wedi penderfynu mai’r peth gorau i Indi Gregory oedd peidio â pharhau a’r driniaeth.
Methodd ei rhieni â pherswadio barnwyr a barnwyr y Llys Apêl yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc, i wrthdroi’r penderfyniad hwnnw.
Roedden nhw hefyd wedi gobeithio trosglwyddo Indi i ysbyty yn Rhufain.
Dywedodd llefarydd ar ran Christian Concern ddydd Sul nad oedd Indi bellach yn derbyn triniaeth i ymestyn ei bywyd.
Roedd hi wedi cael ei symud o Ganolfan Feddygol y Frenhines yn Nottingham, lle’r oedd yn cael ei thrin, i hosbis, medden nhw.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan y grŵp, dywedodd tad Indi ei bod yn parhau i “frwydro’n galed”.
Dywedodd y barnwr na ellid enwi arbenigwyr sy'n ymwneud â gofal Indi - ac ni ellid ychwaith enwi'r hosbis lle mae hi wedi cael ei symud.