Cyhuddo dyn o lofruddio mam a gafodd ei lladd o flaen ei phlant
Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes a gafodd ei lladd o flaen ei phlant ym Manceinion, meddai’r heddlu.
Mae Obert Moyo, 45, wedi’i gyhuddo o lofruddio Perseverance Ncube, gafodd ei ddarganfod ag anafiadau difrifol yn Salford am tua 2.40 bore ddydd Gwener.
Cafwyd hyd i Ms Ncube, 35, gydag anaf trywanu yn ei brest ar Dukesgate Grove yn Little Hulton, Worsley.
Fe gafodd ei chludo i'r ysbyty, lle y bu farw.
Mae Moyo, o Pennington Road, Bolton, hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Bolton ddydd Llun.
Wrth roi teyrnged i Ms Ncube dywedodd ei theulu ei bod yn “fam gariadus ac ymroddgar a oedd yn byw i’w phlant, ei theulu a'i ffrindiau”.
Mae Heddlu Manceinion yn apelio ar un unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 236 o Dachwedd 10.