Newyddion S4C

Ffotograffydd o Fôn yn fuddugol yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Prydain

11/11/2023
s4c

Mae ffotograffydd o Fôn wedi dod yn fuddugol yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Prydain.

Fe wnaeth Gareth Jones ddod yn gyntaf yng nghategori tirlun yn y noson wobrwyo a gafodd ei chynnal yn Llundain nos Wener. 

Cafodd y llun arobryn ei dynnu yn Ffos Anoddun, Betws y Coed.

"Ro'n i wedi gweld amryw o ddelweddau o'r lleoliad yma dros y blynyddoedd a llynedd fe wnes i ymdrech i geisio dal rhywbeth arbennig yn y ceunant bendigedig yma yn Eryri," meddai.

"Ro'n i wedi cynllunio i gael llun o'r haul yn codi am 9.45 ar fore clir ond oer o Dachwedd."

Dywedodd ei fod "bron a disgyn" wrth ddringo i lawr i'r ceunant.

"Gyda fy nghalon yn curo dechreuais sylweddoli mai'r bore yma oedd fy niwrnod lwcus," meddai.

"Llifodd y pelydrau golau rhyfeddol hyn i lawr o ganopi'r coed fel rhyw sioe naturiol anhygoel - ro'n i wedi syfrdanu am tua 10 munud wrth wasgu ar y botwm."

Dechreuodd gyrfa Gareth sy’n byw yn Llangefni bum mlynedd yn ôl yn ôl yn 2014 pan yn 34 oed. 

Dywedodd fod ganddo angerdd dros ffotograffiaeth o unrhyw fath, o dirluniau i ffotograffiaeth priodas ai'w ffefryn, astroffotograffiaeth.

Yn ôl Gareth mae wedi agor ei lygaid i harddwch Cymru ac mae'n aml yn crwydro Ynys Môn ac Eryri ddydd neu nos yn edrych ac yn mwynhau tirwedd amrywiol ac arfordiroedd gogledd Cymru.

Llun: @Garethmon

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.