Iechyd meddwl teulu ‘yn dioddef’ wrth i fabi a phlentyn ag awtisitiaeth orfod rhannu fflat fechan
Mae tad yn “erfyn” ar gymdeithas dai i symud ei deulu sy’n cynnwys babi a merch sydd ag awtistiaeth i gartref mwy o faint.
Mae Jonathan Dobson, 38, yn rhannu fflat dwy ystafell wely yn Abergele gyda’i ferched Autumn, 16, ac Erin, 11, a hefyd mab un oed Autumn, Oliver.
Mae gan Erin awtistiaeth ac mae hi’n cysgu mewn ystafell sy’n gyfuniad o lolfa a chegin oherwydd diffyg lle, sydd yn amharu ar ei chwsg meddai ei thad.
Mae’r teulu wedi byw yn y fflat yn Llys Jenkin ers saith mlynedd ond ers i Oliver gael ei eni y llynedd mae wedi mynd yn llawer rhy fach i’r teulu, meddai’r tad sy’n gweithio mewn salon lliw haul.
“Rydw i wedi erfyn ac erfyn ar asiantaeth dai Wales and West i’n symud am bedair blynedd ond dy’n nhw ddim wedi,” meddai.
“Mae wedi effeithio ar fy iechyd meddwl am ychydig o flynyddoedd o leiaf. Rydw i ar ben fy nhennyn.
“Roedd y tair blynedd gyntaf yn iawn. Ges i ‘stafell wely, ac roedd y merched yn rhannu ystafell wely.
“Ond rŵan dydyn nhw ddim yn gallu rhannu ystafell oherwydd awtistiaeth Erin a nawr mae’r babi yma.
“Ystafell wely Erin ydi'r ystafell fyw, ond mae'n ystafell fyw a chegin fel un.
“Am fod ganddi awtistiaeth dydi o’m yn gwneud lles i Erin oherwydd sŵn y peiriant golchi a’r peiriant sychu dillad.
“Mae’n cael hunllefau yn y nos a ddim yn gallu setlo am ei fod o’n ystafell agored. Does ganddi ddim preifatrwydd.
“Ond does gan y gymdeithas dai ddim diddordeb. Maen nhw newydd ddweud nad oes yna ddim byd ar gael.”
‘Cymorth’
Dywedodd llefarydd ar ran asiantaeth dai Wales and West mai’r cyngor sir oedd yn gweinyddu’r rhestr aros am dai.
“Rydym yn ymwybodol o sefyllfa Mr Dobson ac mae ein tîm tai wedi bod yn darparu cyngor a chymorth wrth geisio dod o hyd i ateb,” medden nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy: “Dim ond un gofrestr tai sydd yng Nghonwy, ond chwe chymdeithas dai.
“Mae’r gofrestr tai yn cael ei rheoli gan Cartrefi Conwy ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.”
Dywedodd Jonathan Dobson y byddai eiddo tair ystafell wely yn gwneud y tro.
“Mae’r gymdeithas dai yn dweud bod yn rhaid i ni gael eiddo pedair ystafell wely,” meddai.
“Ond rydw i wedi dweud wrthyn nhw dro ar ôl tro dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf nad oes ots gennym ni os yw’n eiddo tair ystafell wely oherwydd o leiaf bydd gennym ni ystafell fyw.
“Da ni ddim yn gallu eistedd a bwyta gyda'n gilydd. Da ni ddim yn gallu gwylio'r teledu. Allwn ni ddim gweithredu fel teulu normal.”