Newyddion S4C

Elusen Charlotte Church wedi colli'r hawl i ddefnyddio coedwigoedd

11/11/2023
s4c

Mae elusen a sefydlwyd gan Charlotte Church yn chwilio am gartref newydd ar ôl colli eu caniatâd i ddefnyddio rhai o goedwigoedd Cymru.

Dywedodd Coed Cadw eu bod wedi gwneud y penderfyniad “trist” oherwydd nifer o achosion o dorri amodau iechyd a diogelwch gan Brosiect Awen, a sefydlwyd gan y gantores o Gaerdydd yn 2019.

Roedd yr elusen wedi bod yn defnyddio coedwigoedd rhwng pentref Llanfihangel-y-pwll a thref Dinas Powys yn ne Cymru er mwyn cynnig "amgylchedd dysgu" i blant a phobl ifanc yn yr awyr agored.

Mae Ms Church wedi lansio apêl i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer ei phrosiect, gan ddweud bod y newyddion wedi bod yn “rollercoaster”.

Dywedodd llefarydd ar ran Coed Cadw: “Yn anffodus, ac ar ôl llawer o drafod, rydym wedi penderfynu terfynu’r caniatâd presennol a roddwyd i Brosiect Awen ar gyfer defnydd Coed Cwm George a Casehill.

“Mae hyn oherwydd nifer o achosion o dorri’r caniatâd hwn, sydd wedi peri pryderon iechyd a diogelwch i’n hymwelwyr a bywyd gwyllt o fewn y coetir hynafol."

'Ymdrechu'

Dywedodd Coed Cadw eu bod nhw wedi cynnig "trefniant newydd" i Brosiect Awen yng Nghwm George.

Ond mewn datganiad ar Instagram ddydd Gwener, dywedodd Charlotte Church fod gan Brosiect Awen bellach “angen dirfawr” am gartref newydd i gynnal gwaith yr elusen.

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn rollercoaster - ac fe wnaethon ni ymdrechu mor galed i aros lle'r oedden ni - ond fel elusen fach iawn, ni allwn ddal i fynd yn erbyn y dynion mawr.

“Os oes gennych chi unrhyw dir yn y Barri, Dinas, Penarth, Caerdydd neu ardal gyffredinol De Cymru, cysylltwch â nhw yn uniongyrchol.”

Mae Prosiect Awen wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.