Gwaith dur Tata: Cannoedd o weithwyr yn protestio dros ddiswyddiadau
Gwaith dur Tata: Cannoedd o weithwyr yn protestio dros ddiswyddiadau
Mae cannoedd o weithwyr Tata Steel wedi cynnal gorymdaith brotest wrth i staff y cwmni wynebu'r bygythiad o golli swyddi.
Roedd tua 400 o bobl yn gorymdeithio ar hyd glan môr Aberafan ym Mhort Talbot fore Sadwrn.
Mae undebau'n dweud bod Tata yn bwriadu diswyddo miloedd o weithwyr yn y ffatri fel rhan o gynlluniau i gynhyrchu dur trwy ddulliau mwy caredig i'r amgylchedd.
Roedd y cwmni i fod i wneud datganiad ar ddyfodol y ffatri yn gynharach y mis hwn, ond cafodd ei ohirio.
Dros yr wythnosau diwethaf mae deiseb Unite sy’n cefnogi 'Cynllun y Gweithwyr ar gyfer Dur' wedi denu mwy na 21,000 o lofnodion.
'Gweithredu'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham bod angen cefnogaeth gan wleidyddion os am achub swyddi ar y safle.
“Mae ymgyrch Cynllun Gweithwyr Unite ar gyfer Dur eisoes yn talu ei ffordd," meddai.
"Ond er mwyn sicrhau bod gwaith dur Port Talbot yn dod yn arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu dur gwyrdd, gan gefnogi swyddi da sy’n talu’n dda yn awr ac am genedlaethau i ddod, mae angen i ni alw ar wleidyddion i weithredu.
"Dyna pam mae Unite yn gofyn i bawb ym Mhort Talbot fynnu bod gwleidyddion o bob plaid yn ymrwymo i Gynllun y Gweithwyr Dur.”
Mae Tata wedi dweud nad ydyn nhw'n barod eto "i wneud cyhoeddiad ffurfiol" eto am ddyfodol y ffatri ym Mhort Talbot.
Llun: Twitter @CommunityUnion