Angladd merch 15 oed a gafodd ei thrywanu i farwolaeth ar ei ffordd i’r ysgol
Mae teulu a ffrindiau wedi cynnal angladd merch 15 oed a gafodd ei thrywanu i farwolaeth ar ei ffordd i’r ysgol.
Bu farw Elianne Andam ar Fedi 27 wrth gerdded i’w hysgol yn Croydon, de Llundain.
Cafodd ei harch ei gludo i’r gwasanaeth mewn cerbyd gwyn wedi ei dynnu gan bedwar ceffyl.
Mae bachgen 17 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth Elianne a bydd yn wynebu achos llys ar Ebrill 29.
Honnir bod ei hymosodwr wedi ei thrywanu dro ar ôl tro â chyllell fawr.
Wrth siarad cyn yr angladd, dywedodd ei dwy fodryb Elianne Regina Boafo a Ruby Paintsil y byddai yn ddathliad o’i bywyd.
“Roedd hi’n ferch oedd yn hoffi dod â llawenydd i fywydau pobl,” medden nhw.
“Doedd hi ddim yn hoffi anghyfiawnder; roedd hi'n hoffi sicrhau cyfiawnder i bobl.
“Bob tro roedd hi mewn trwbl roedd hi wedi bod yn ymladd dros rywun arall.”