Newyddion S4C

‘Wedi torri’: Angen ‘diwygiad ar raddfa gyfan’ ar wasanaethau bysiau Cymru medd gweinidog

11/11/2023
Lee Waters a bws

Mae model presennol gwasanaethau bysiau Cymru “wedi torri” ac mae angen “diwygiad ar raddfa gyfan” arno yn ôl y gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters y byddai modd cyflawni “llawer mwy” drwy ddod a’r rhwydwaith bysiau o dan berchnogaeth gyhoeddus yn hytrach na’u bod yn cael eu cynnal gan gwmnïoedd er elw.

Daw ei sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru wladoli gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn 2021 a’u rhoi dan ofalaeth is-gwmni Trafnidiaeth Cymru.

Wrth i Gymru barhau i adfer o’r pandemic Covid “mae'n dod yn fwy amlwg bod y model gweithredu preifateiddio ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi torri,” meddai Lee Waters.

“Yn y pen draw, mae angen diwygiad ar raddfa gyfan, cynllunio rhwydwaith, a model gweithredu sy'n rhoi teithwyr a budd y cyhoedd o flaen elw.

Ychwanegodd y “byddwn yn gallu cyflawni llawer mwy pan fydd dyluniad ein rhwydwaith yn gyfrifoldeb cyhoeddus yn hytrach nag ymarfer sy'n cael ei arwain gan elw”.

Dywedodd Lee Waters ei fod ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda chwmnïoedd trafnidiaeth er mwyn “darparu gwasanaethau bysiau i'n cymunedau sy'n addas ar gyfer y dyfodol”.

‘Gweithio yn agos’ 

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford addo gwella’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru.

Dywedodd y byddai bysiau yn un o flaenoriaethau ei lywodraeth dros y 12 mis nesaf, ac y byddai newidiadau’n cael eu gwneud “mewn ffordd sy’n hybu lles y cyhoedd”. 

Roedd hynny’n cynnwys systemau tocynnau symlach, newid amserlen, a gwell cysylltiadau rhwng gwasanaethau ar wahân.

Awgrymodd hefyd y byddai yn dod â’r rhwydwaith o dan reolaeth fwy canolog.

Wrth siarad ddydd Gwener dywedodd Lee Waters y byddai gan lywodraeth leol rôl gryfach a gweithredol fel rhan o’r cynllun newydd.

Byddai cynghorau lleol yn “gweithio gyda ni'n rhanbarthol i ddatblygu cynllun clir ar gyfer y rhwydwaith yn eu hardaloedd,” meddai. 

“Byddant yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru a fydd yn arwain ar gaffael y gwasanaethau hynny, gan gefnogi darparu rhwydwaith cydlynol, cyson, wedi'i gynllunio'n dda ac ystyriol o deithwyr, gyda thocynnau syml, fforddiadwy - sy'n ddilys ar draws yr holl wasanaethau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.