Rhan o’r A470 i aros ar gau drwy’r penwythnos ar ôl i wal ddymchwel
Rhan o’r A470 i aros ar gau drwy’r penwythnos ar ôl i wal ddymchwel
Bydd rhan o’r A470 yn aros ar gau drwy’r penwythnos ar ôl i wal gynnal ar ochr y ffordd ddymchwel.
Cafodd y ffordd ei gau wedi i’r wal a oedd yn cynnal rhan o'r ffordd ddymchwel ger Talerddig ym Mhowys.
Mae Traffic Cymru wedi dweud bod y ffordd yn parahu i fod ar gau i'r ddwy gyferiad rhwng Carno a Dolfach.
Mae gyrrwyr cerbydau yn cael eu dargyfeirio heibio Aberystwyth - taith o 71 milltir.
Mae disgwl i’r ffordd fod ar gau am o leiaf wythnos meddai Elwyn Vaughan, cynghorydd gyda Chyngor Powys ac sy'n byw'n lleol.
"Mae gwaith yn mynd rhagddo i atal mwy o bridd rhag cael ei olchi i ffwrdd," meddai.
"Gan fod sylfaen y ffordd yn feddal, mae'n rhaid tyllu i ddarganfod craig a thir caled cyn yna gosod rhwystrau concrit addas fel bod pwysau cerbydau trwm ddim yn gwthio mwy o'r pridd meddal sydd yno tua'r afon.
"Mi fydd y ffordd ar gau yn llwyr am o leia wythnos ac yna maes o law fydd angen buddsoddiad sylweddol i ailadeiladu sylfaen y ffordd."