Newyddion S4C

Gwlad yr Iâ: Pryder am ffrwydrad magma posib mewn tref

11/11/2023
s4c

Mae Gwlad yr Iâ wedi datgan cyflwr o argyfwng ar ôl i gyfres o ddaeargrynfeydd godi ofnau y gallai magma ffrwydro o'r ddaear mewn tref.

Mae'r awdurdodau yn y wlad wedi gorchymyn i filoedd sy'n byw yn nhref Grindavík yn ne-orllewin y wlad i adael rhag ofn y bydd ffrwydrad.

Mae Swyddfa Dywydd Gwlad yr Iâ (IMO) wedi dweud ei bod yn pryderu y gallai llawer iawn o fagma ddod i'r wyneb yno.

Mae mwy na 20,000 o ddaeargrynfeydd wedi'u cofnodi yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ ers diwedd mis Hydref.

Dywedodd Asiantaeth Amddiffyn Sifil Gwlad yr Iâ fod y penderfyniad i symud pobl o’u cartrefi wedi dod ar ôl i’r IMO beidio â diystyru y gallai'r “twnnel magma sy’n ffurfio ar hyn o bryd gyrraedd Grindavík”.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr asiantaeth fod yn rhaid i bobl adael y dref, ond pwysleisiodd hefyd nad oedd gwneud hynny yn fater o “frys” - gan alw arnyn nhw i “aros yn ddigynnwrf, oherwydd mae gennym ni ddigon o amser i ymateb”.

'Ddim yn gwybod'

Mae’r holl ffyrdd i mewn i’r dref sy'n gartref i tua 4,000 o bobl ar gau ac eithrio ar gyfer ymateb i'r argyfwng, er mwyn sicrhau bod traffig yn gallu mynd i mewn ac allan.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr IMO fod “newidiadau sylweddol wedi digwydd yn y gweithgaredd seismig”, gyda'r cryndodau yn agosáu at Grindavík yn ystod y dydd.

Ychwanegodd ei bod yn debygol bod magma wedi ymestyn o dan y dref ac nad oedd “yn bosib gwybod yn union” a fyddai yn dod i'r wyneb ac yn lle.

Gwlad yr Iâ yw un o’r rhanbarthau mwyaf gweithgar yn ddaearyddol yn y byd, gyda thua 30 o safleoedd folcanig gweithredol.

Mae ffrwydradau folcanig yn digwydd pan fydd magma, sy'n ysgafnach na'r graig solet o'i gwmpas, yn codi i wyneb y ddaear o ddwfn oddi tano.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.