Newyddion S4C

Dysgu Cymraeg wedi creu ‘llwyth o brofiadau newydd’ i Scott Quinnell

12/11/2023
Cais Quinnell

Fel rhan o’i gyfres newydd ar S4C, mae’r cyn-chwaraewr rygbi Scott Qunneill wedi bod yn sôn am y profiadau newydd mae wedi ei brofi ers iddo ddysgu Cymraeg.

Y mae hefyd yn sôn am y profiad emosiynol o ddysgu iaith arwyddo Makaton yn ei gyfres Cais Quinnell.

Yn ôl y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, roedd y cyfle i ddysgu Makaton yn un o uchafbwyntiau ei anturiaethau ar gyfer y gyfres newydd.

Yn y gyfres mae Scott yn ymweld â lleoliadau ar hyd a lled Cymru wrth iddo brofi gweithgareddau gwahanol.

Mae iaith weledol Makaton yn ffordd o ddefnyddio arwyddion i helpu dealltwriaeth iaith, a hefyd i ddysgu Cymraeg.

Dywedodd Scott: “Roedd Sian a Ceri oedd yn fy nysgu yn wych.

“Fe ddysgais i ganu Sosban Fach gyda Chôr Lleisiau Llawen yng Nghaernarfon – côr ar gyfer pobol gydag anableddau dysgu.

“Roedd honno’n bennod emosiynol iawn i fi. Fi’n lwcus eu bod nhw wedi cael fi i wneud Makaton gyda nhw.”

'Tyfu fel cenedl'

Wedi gyrfa lewyrchus yn chwarae rygbi dros Lanelli, y Llewod a Chymru mae Scott wedi troi ei law at gyflwyno – a hynny yn Gymraeg.

Dilynwyd taith Scott i ddysgu Cymraeg ar raglen Iaith ar Daith yn 2020.

Mae Scott wedi siarad ar sawl achlysur am ei drafferthion gyda dyslecsia tra’n ifanc, ond mae wedi goresgyn hyn gyda’i agwedd bositif a’i barodrwydd i ddysgu a chael tro arni.

Dywedodd Scott: Pan dwi’n siarad yn gyhoeddus, beth dwi’n trio ei bortreadu i bobol yw – trïwch e. Mae gen i’r feddylfryd o geisio gwneud tro ar bopeth nad ydw i wedi eu trio o’r blaen.

“Dwi yn gwneud camgymeriadau, ond os ti ddim dwyt ti ddim yn datblygu. Os ti ddim yn gwneud camgymeriadau sut wyt ti’n dysgu?

“Mae dysgu Cymraeg wedi agor llwyth o brofiadau newydd i fi. Mae gyda ni gyd rôl i’w chwarae.

“Pan yn cyflwyno Allez Quinnell allan yn Ffrainc, roedd lot o’r bobol oeddwn i yn siarad â nhw yn dweud eu bod ond yn siarad dipyn bach, wel mae hynny yn briliant. 

"Os ti ond yn siarad dipyn bach gyda rhywun, ti’n dod i siarad dipyn bach mwy.

“Y peth pwysicaf i fi yw bod pobol yn siarad beth sy’n bosib a dysgu rhywfaint bob dydd, mewn blwyddyn byddi di’n siaradwr lot gwell. 

"Os gallwn ni wneud hynny blwyddyn ar ôl blwyddyn gallwn ni dyfu fel cenedl.”

Wrth deithio Cymru mae Scott hefyd yn cael gwers ar sut i fod yn berfformiwr drag gyda Maggi Noggi. Y mae hefyd yn rhoi sba i foch a dysgu iodlan.

Fe fydd y gyfres newydd Cais Quinnell ar S4C Nos Lun, 13 Tachwedd am 20:25.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.