Cynllun newydd i agor gorsaf betrol arall ar ffordd osgoi ger Caernarfon
Mae ail gynllun ar y gweill i agor gorsaf betrol newydd a safleoedd gyrru trwodd ar ochr ffordd osgoi yng Ngwynedd - wythnosau'n unig ar ôl i gynllun tebyg gerllaw gael ei gyhoeddi.
Mae ymgynghoriad wedi dechrau'n barod ar gyfer canolfan betrol ger cyffordd Ffordd Pwllheli ar ffordd osgoi Caernarfon ger Bontnewydd, fyddai'n cynnwys gorsaf betrol, 11 pwynt gwefru cerbydau trydan a siop goffi gyrru trwodd.
Bellach mae ail safle ar y gweill - fydd yn cynnwys gorsaf betrol a dau safle gyrru trwodd, ond nid oes manylion hyd yma am y cwmnïau fydd yn eu rhedeg.
Byddai'r safle'n cynnwys safle manwerthu hefyd petai'n derbyn hawl cynllunio.
Cafodd y cais ei wneud gan Malcolm Brymer - gyda chwmni JMS Planning and Development yn asiant ar ei ran.
Nid yw'n amlwg os bydd y ddau gais yn derbyn caniatád cynllunio gan eu bod mor agos i'w gilydd.
Nid yw'r cais cyntaf gan Motor Fuel Group wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd hyd yma, ac mae proses ymgynghori ar y gweill ar gyfer y cynllun fyddai wedi ei leoli i'r de o Barc Muriau ar gyrion Caernarfon.
Mae cwmni Cadnant Planning Ltd wedi ei gomisiynu gan Beauchester Estates Limited i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio, gyda'r dyddiad cau ar gyfer lleisio barn ganol fis Tachwedd.
Dywedodd Rhys Davies, o Cadnant Planning, y byddai’r safle’n darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyflym mewn lleoliad sy’n gyfleus ar gyfer teithiau i bob cyfeiriad.
Mae'r cynllun cyntaf wedi hollti barn pobl ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn dweud y byddai agor yr orsaf yn creu swyddi, gydag eraill yn dadlau y bydd busnesau lleol yn colli arian.
Llun: Argraff artist/Dogfen Gynllunio