Newyddion S4C

Cynllun i agor gorsaf betrol ar ffordd osgoi yng Ngwynedd yn hollti barn

24/10/2023
Gorsaf / caffi gyrru trwodd Caernarfon

Mae cynllun arfaethedig i agor gorsaf betrol newydd a chaffi gyrru trwodd ar ochr ffordd osgoi yng Ngwynedd wedi hollti barn.

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gyfer canolfan betrol ger cyffordd Ffordd Pwllheli ar ffordd osgoi Caernarfon, fyddai'n cynnwys gorsaf betrol, 11 pwynt gwefru cerbydau trydan a siop goffi gyrru trwodd.

Nid yw'r cais wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd hyd yma, ac mae proses ymgynghori ar y gweill ar gyfer y cynllun fyddai wedi ei leoli i'r de o Barc Muriau ar gyrion Caernarfon.

Mae cwmni Cadnant Planning Ltd wedi ei gomisiynu gan Beauchester Estates Limited i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio, gyda'r dyddiad cau ar gyfer lleisio barn ganol fis Tachwedd.

Dywedodd Rhys Davies, o Cadnant Planning, y byddai’r safle’n darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyflym mewn lleoliad sy’n gyfleus ar gyfer teithiau i bob cyfeiriad.

'Colli hunaniaeth'

Mae'r cynllun wedi hollti barn pobl ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn dweud y byddai agor yr orsaf yn creu swyddi, gydag eraill yn dadlau y bydd busnesau lleol yn colli arian.

Dywedodd Neil Rawlinson wrth ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol: "Sut ar y ddaear y gall hyn fod yn syniad da?

"Mae gorsafoedd petrol ychydig oddi ar y ffordd ar hyd y ffordd honno eisoes, felly rydym yn tynnu i mewn grŵp busnes mawr o dros y ffin ar gost i fusnesau lleol?"

Image
gorsaf / caffi gyrru trwodd caernarfon
Safle'r datblygiad posib ger y gylchfan cyn cyrraedd Bontnewydd

Un sydd o blaid y datblygiad oedd Geraint Edwards. Dywedodd: "Syniad anhygoel a byddai'n creu gwaith i bobl leol."

Wrth wneud sylw ar Facebook, dywedodd David Foulds y byddai busnesau lleol yn dioddef: "Roeddwn i'n meddwl' tybed pryd fyddai hyn yn digwydd.

"Bydd disgwyl mwy o ddatblygiadau busnesau corfforaethol mawr a fydd yn effeithio ar fusnesau lleol. Byddant yn ei gyfiawnhau drwy ddweud eu bod yn creu swyddi.

"Hefyd colli hunaniaeth leol wrth i frandiau corfforaethol mawr ymddangos ym mhobman."

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 13 Tachwedd.

Unwaith y bydd yr adborth wedi ei ystyried bydd cais yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd.

Llun: Cadnant Planning Ltd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.