Lansiad gêm Call of Duty yn achosi'r 'cynnydd mwyaf erioed' mewn lefelau traffig band-eang
Fe gafodd y lefelau uchaf erioed o draffig band-eang eu cofnodi yn y DU yn dilyn lansiad y gêm gyfrifiadurol ddiweddaraf Call of Duty, yn ôl cwmniau darparu band-eang.
Fe wnaeth BT, EE a Virgin Media O2 adrodd cynnydd sylweddol yn nefnydd eu rhwydweithiau ar ôl i’r gêm Call of Duty: Modern Warfare III gael ei ryddhau i’w lawrlwytho nos Fercher, cyn ei lansiad swyddogol ddydd Gwener.
Dywedodd Virgin Media O2 fod y lefel o weithgaredd ar ei rhwydwaith nos Fercher 22% yn uwch na’r lefel uchaf a welwyd yn flaenorol.
Cafodd y record flaenorol ei gosod wythnos ddiwethaf yn dilyn lansiad map newydd ar y gêm boblogaidd Fortnite.
Dywedodd Paul Kells, cyfarwyddwr strategaeth rhwydwaith a pheirianneg Virgin Media O2: “Mae wedi bod yn gwpl o wythnosau cyffrous i chwaraewyr gemau cyfrifiadurol, wrth i fap gwreiddiol Fortnite ddychwelyd a lansiad hir-ddisgwyliedig Call of Duty: Modern Warfare III.
“Mae’r ddau ddigwyddiad hyn wedi gweld chwaraewyr yn mynd ar-lein yn eu llu, gyda’n cwsmeriaid yn gosod dwy record rhwydwaith mewn llai nag wythnos."
Dywedodd EE a BT eu bod wedi cofnodi’r ail lefel uchaf erioed mewn gweithgaredd ar eu rhyngrwyd yn sgil y lansiad.