Perchennog trampolîn wedi'i garcharu ar ôl i ferch dair oed farw mewn ffrwydrad
Mae perchennog trampolîn wedi ei garcharu am chwe mis yn dilyn marwolaeth merch dair oed a gafodd ei lladd mewn ffrwydrad.
Fe wnaeth Ava-May Littleboy ddioddef anaf angheuol i’w phen ar ôl cael ei thaflu i’r awyr pan chwythodd trampolîn yn llawn gwynt i fyny yn Gorleston-on-Sea yn Norfolk yn 2018.
Roedd Curt Johnson, 52, a’i gwmni Johnsons Funfair Ltd ill dau wedi cyfaddef i ddau gyhuddiad o dorri cyfreithiau iechyd a diogelwch.
Dywedodd y Barnwr Christopher Williams nad oedd "unrhyw ddedfryd y gallaf ei rhoi a all unioni'r drasiedi ofnadwy hon."
Roedd Ava-May, o Suffolk, gyda’i theulu ar y traeth ar 1 Gorffennaf pan aeth ar y trampolîn.
Disgrifiodd tystion iddi gael ei thaflu’n “uwch na thŷ” pan ffrwydrodd y gwynt tu mewn i'r trampolîn ac roedd yn ymddangos yn anymwybodol cyn iddi daro’r ddaear.
Roedd un plentyn arall, naw oed, ar y trampolîn ar y pryd ond ni chafodd “anaf corfforol sylweddol”, meddai Cyngor Bwrdeistref Great Yarmouth yn flaenorol.
Yn 2020, daeth rheithgor cwest i’r casgliad nad oedd gweithdrefn ar waith i reoli chwyddiant y trampolîn yn ddiogel, nad oedd wedi’i wirio gan drydydd parti annibynnol ac nad oedd ganddo lawlyfr cyfarwyddiadau.
Disgrifiodd rhieni'r ferch fu farw, Nathan Rowe a Chloe Littleboy, Ava-May fel "merch ddisglair, ddoniol, hardd."
'Achos difrifol'
Yn ystod y ddedfryd yn Llys Ynadon Chelmsford, dywedodd y Barnwr Williams wrth Johnson: “Rwy’n myfyrio ar y dioddefaint a’r gofid y mae’r teulu wedi bod drwyddo.
“Yn y pen draw mae plentyn wedi colli ei fywyd oherwydd methiannau ar eich rhan chi.
"Mae hwn yn achos mor ddifrifol fel bod yn rhaid i mi ddod i'r casgliad bod angen dedfryd ataliol."
Dywedodd Oliver Campbell KC, ar ran Johnson, fod Johnson a’i wraig yn “difaru’n fawr” yr hyn ddigwyddodd a “marwolaeth drasig” Ava-May.
"Mae'n ymddiheuro'n ddiffuant i'r llys a'r teulu am ei fethiannau," meddai, gan ychwanegu bod y cwmni "wedi peidio â masnachu beth amser yn ôl ac na fydd yn masnachu eto."
Cafodd Johnsons Funfair Limited, o Great Yarmouth, hefyd ddirwy o £20,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfunol o £300,000 i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chyngor Bwrdeistref Great Yarmouth.
Cafodd Mr Johnson o Yarmouth hefyd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am bum mlynedd.
Clywodd y llys yn flaenorol fod gan y cwmni bolisi yswiriant a fyddai'n talu'r costau o £300,000.