Newyddion S4C

Carchar am oes i ddyn o Gasnewydd am lofruddio ei fam

10/11/2023
Lewis Bush.png

Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio ei fam. 

Cafodd Lewis Bush, 27, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener ar ôl pledio yn euog i lofruddio ei fam, Kelly Pitt, 44, yn ei chartref ym mis Mai. 

Bydd yn treulio isafswm o 16 mlynedd o dan glo. 

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Virginia Davies: "Mae teulu Kelly Pitt wedi torri eu calonnau yn dilyn colled mam, mam-gu a chwaer arbennig yn sgil gweithredoedd ei mab. 

"Hoffwn roi teyrnged iddynt am y cryfder y maen nhw wedi ei ddangos drwy'r cyfnod anodd yma. 

"Ni fydd yna unrhyw beth yn gwneud yn iawn am eu colled ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw.

"Hoffwn roi sicrwydd i unrhyw un sydd eisiau adrodd am honiad o drais domestig neu drais yn erbyn menywod a merched ifanc fod yna ystod eang o wasanaethau cefnogi ar gael, ac rydym yn erfyn arnoch chi i siarad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.