Pobl 'wedi anghofio' am Gaza medd Cymraes fu'n gweithio yno
Pobl 'wedi anghofio' am Gaza medd Cymraes fu'n gweithio yno
Mae pobl wedi "anghofio am Gaza" yn ôl gweithiwr dyngarol o Gymru fu'n gweithio yno.
Mae Caitlin Kelly yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i'r Groes Goch ac wedi bod yn gweithio mewn rhyfeloedd ar draws y byd.
Ers dechrau ei gwaith gyda'r Groes Goch, mae hi wedi gweithio yn Wcráin, Gaza a'r Lan Orllewinol.
Wrth siarad ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul, dywedodd Caitlin: "Does 'na ddim posibilrwydd, mae fel mae'r byd wedi anghofio am Gaza.
"Mewn unrhyw ryfel, y bobl cyffredin sy'n cael eu dal lan yn y trais a'r niwed.
"Yr hen bobl sydd methu gadael eu cartrefi nhw, y bobl anabl sydd methu rhedeg pan mae pawb arall yn gallu - nhw yw'r bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y sefyllfaoedd yma - ma' fe'n ofnadwy i hyd yn oed meddwl yr ofn ma' hwnna yn creu.
"Ma' 'na llai o arian, llai o gymorth dyngarol yn mynd i'r llefydd sydd angen e a ma'r anghenion jyst yn mynd yn fwy a fwy.
"Ma' rhaid i ni gofio hyd yn oed os nad ydyn ni'n gweld pethe yn y newyddion, mae 'na dal bobl sydd angen help."
'Unigryw'
Dywedodd Caitlin nad oes ffordd hawdd o egluro sefyllfa unigryw Gaza.
"Dwi 'di bod i Gaza nifer o weithie yn arwain tîm cyfathrebu y Groes Goch. Ma' Gaza yn anodd i'w ddisgrifio achos ma' fe mor unigryw, ma' pobl yn Gaza wedi cael eu cau mewn dros 16 mlynedd," meddai.
"Ma' 'na dros 2 filiwn o bobl yn byw ar tamaid bach o strip a ma' fe fel carchar, hwnne sut ma' nhw'n disgrifio fe, y bobl sy'n byw yn Gaza.
"Ma'r adeilade mor agos at ei gilydd a weithie pan chi'n cwrdd â phobl yn enwedig yn y camps, mae' 'na dros 20 o bobl yn byw mewn un stafell achos mae 'na ddim digon o bwyd a dŵr ac electricity i fynd rownd i gyd o'r bobl 'na a mae'n cael effaith ofnadwy ar y gymuned."
Ychwanegodd bod angen cymorth dyngarol hanfodol ar Gaza cyn y sefyllfa bresennol, ond ers dechrau'r ymladd rhwng Israel a Hamas ychydig dros fis yn ôl, mae pethau wedi gwaethygu'n ofnadwy.
"Mae 80% o bobl angen cymorth ag oedd hwnna hyd yn oed cyn be nath digwydd ym mis Hydref a mae 'na plant bob man, pobl ifanc bob man achos mae dros 50% o'r bobl sy'n byw 'na dan yr oedran o 18 a hefyd mae 'na dros 60% sydd ddim gyda swyddi," meddai.
'Hanfodol bwysig'
Mae posibilrwydd y gallai Caitlin ddychwelyd i Gaza yn rhinwedd ei swydd.
"Gyda natur y gwaith yma, mae 'na siawns byddai'n mynd nôl i Jeriwsalem neu Gaza i cario 'mlaen y gwaith o trio deud y stori o'r bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymladd ac i esbonio'r gwaith hanfodol bwysig ma sefydliade fel y Groes Goch a'r Cenhedloedd Unedig yn gwneud," meddai.
Er bod Caitlin yn gobeithio am 'fyd di-ryfel', yn sgil yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar, mae'r freuddwyd honno yn teimlo'n bell i ffwrdd iddi.
"Dwi'n credu i bawb sy'n gweithio yn y sector yma, mae 'na obaith am fyd di-ryfel a ma' 'na breuddwyd a gobaith bod dim angen i'r Groes Goch neu'r Cenhedloedd Unedig a ni'n gallu symud mlaen.
"Ond yn anffodus gyda'r llunie ni 'di gweld dros yr wythnose diwethaf, mae'r llun yna yn teimlo yn bell iawn i ffwrdd."
'Deall narratives'
A'i mam yn Gymraes a'i thad yn Wyddel, fe gafodd Caitlin ei magu yn y ffydd Gatholig ac mae ei chrefydd a'i Chymreictod wedi tanio ei hangerdd dros helpu eraill.
"Dwi'n meddwl yr effaith o fynd i ysgol Gatholig a bod mewn cymunede Cymraeg a Gwyddelig oedd gyda rhan rili bwysig o roi yn ôl i'r gymuned a sut oedd chi'n gallu meddwl tu fas i'ch hunain, gath hwnna effaith arno fi," meddai.
"Ers hynny, nes i fynd mlaen i astudio Diweinyddiaeth yn Rhydychen. O'n i'n gweld sut oedd crefydd a sefyllfaoedd ble oedd pobl ddim yn parchu crefydd ei gilydd yn neud niwed.
"O'dd e'n rili bwysig deall narratives pobl erill a nes i fynd 'mlaen i astudio Islam hefyd a dwi'n credu bod hwnna wedi bod yn bwysig yn gwaith fi nawr yw y ffaith bo' fi'n cerdded mewn i tai yn y West Bank, llefydd eraill yn y byd, a dwi'n gallu deall lle mae'r person 'na'n dod a'r ffaith bo' nhw'n credu mewn rhywbeth sydd mor bwysig i nhw a ma' fe'n effeithio gyd o bywyd nhw, dwi wedi gallu deall a cael parch i grefydd yn y sefyllfaoedd 'ma."
Bydd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cael ei darlledu nos Sul am 19:30 ar S4C.