Newyddion S4C

Sianti forwrol am sêr pêl-droed Cymru yn dod i’r brig

ITV Cymru 11/06/2021

Sianti forwrol am sêr pêl-droed Cymru yn dod i’r brig

Daeth bachgen o Aberaeron i’r brig mewn cystadleuaeth i gyfansoddi ‘chant’ i gefnogi Cymru yn yr Ewros.

Fe wnaeth Osian Jones seilio’i ymgais fuddugol ar sianti enwog ‘The Wellerman’ a ddaeth i amlygrwydd ar TikTok yn gynharach eleni, gan newid y geiriau i gynnwys enwau sêr pêl-droed mwyaf Cymru fel Keiffer Moore a Gareth Bale.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg mewn digwyddiadau chwaraeon.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd y cerddor Yws Gwynedd a’r sylwebydd Sioned Dafydd. Dywedodd Yws Gwynedd fod ‘chant’ Osian “on point, on trend, bang on!”

Enillodd Osian o Ysgol Ciliau Parc yng Ngheredigion, y fwyaf o bleidleisiau ar draws yr holl adrannau: cynradd, uwchradd ac oedolion.

Bydd yn derbyn crys wedi’i arwyddo gan garfan Cymru a chael y cyfle i ymweld â’r tîm yn ymarfer yn y dyfodol.

Dywedodd Steffan Rees o Fenter Iaith Ceredigion ei fod yn gobeithio bydd llwyddiant Osian yn ysgogi eraill i greu mwy o ‘chants’ pêl-droed yn Gymraeg yn y dyfodol.

Llun: Menter Iaith

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.