
'Mae'n iawn i beidio bod yn iawn': Cyn-gyflwynydd tywydd yn codi ymwybyddiaeth am anhwylder SAD
'Mae'n iawn i beidio bod yn iawn': Cyn-gyflwynydd tywydd yn codi ymwybyddiaeth am anhwylder SAD
“Fi’n credu bod y Cymry Cymraeg yn euog o hyn; bod rhaid ni fod ‘on it’ drwy’r amser, fod rhaid ni fod yn hapus, fod rhaid ni fod yn bositif – ond mae’n oce i ddim fod yn oce.”
Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, dyma eiriau’r cyn-gyflwynydd tywydd, Chris Jones, wrth iddo siarad am ei brofiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Gyda’r gaeaf yn agosáu, mae’n awyddus i gynnal sgwrs ynglŷn ag anhwylder effeithiol tymhorol (SAD), sef math o iselder sy’n gwaethygu yn ystod cyfnodau tywyllach y flwyddyn.
Mae wedi dioddef gyda’r math yma o iselder ers tro, ond mae cyfnodau “heriol” y blynyddoedd diwethaf wedi profi’n “anodd iawn” iddo, meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C, esboniodd: “Fi ‘di cael iselder, depression – be’ bynnag ti eisiau galw fe – cwmwl du, ci di, be’ bynnag, ar fy ysgwydd i ers blynyddoedd.
“Ond yn sicr yn y dair mlynedd dwetha’ ‘ma, mae ‘di mynd yn waeth,” meddai.

‘Cyfnod anodd’
Cafodd Chris Jones ddiagnosis o ganser y prostad yn 2018, ac mae’n parhau i fyw gyda’r clefyd.
Fe ddaeth ei gyfnod fel cyflwynydd tywydd S4C i ben yn ystod yr un cyfnod hefyd, ac roedd hynny wedi ychwanegu pwysau sylweddol o ran ei iechyd meddwl, meddai.
“O ran gyrfa, o ran gwaith, o ran diffyg hunanwerth, hunanhyder, hunan-barch – fe ath’ rhain i gyd mas trwy’r ffenest mewn ffordd.
“Felly mae ‘di bod yn anodd o ran hynny… ond yn ogystal â canser y prostad ‘ma, mae’r ddau wedi dod at ei gilydd ac yn sicr wedi effeithio arna i yn feddyliol.”
Wedi’i fagu’n unig blentyn, dywedodd Mr Jones ei fod wedi profi trafferth yn y gorffennol wrth siarad yn agored am ei deimladau.
Ond mae eisoes wedi magu’r hyder i fynd at gwnselydd er mwyn trafod ei iechyd meddwl, ac mae bellach yn annog y Cymry Cymraeg i fod yn fwy agored i siarad er mwyn gallu cydnabod unrhyw anhwylderau.
Mae Chris Jones hefyd yn llysgennad dros yr elusen Prostate Cymru, ac yn ceisio mynd i’r afael â “thraddodiad” dynion i beidio trafod salwch meddyliol neu gorfforol.

“Mae siarad a jyst cael rhyw fath o gyngor a help, ac arweiniad wrth ddynion falle sy’n diodde’n barod neu sydd wedi diodde’ yn barod – mae hwnna’n mor, mor, mor bwysig,” meddai.
‘Adnabod y symptomau’
Mae oddeutu tri o bob 100 o bobl yn y DU yn dioddef gydag anhwylder effeithiol tymhorol, meddai’r elusen Mind.
Mae’r symptomau yn amrywio o dymor i dymor, ond fe allai’r symptomau mwyaf cyffredin cynnwys diffyg egni; problemau canolbwyntio; anawsterau cysgu a theimlo’n anobeithiol, isel, a’n euog.
Nid yw’r rhesymau dros anhwylder effeithiol tymhorol bob amser yn glir, ond mae diffyg golau haul yn cael “effaith sylweddol” ar hwyliau pobl, meddai Stephen Buckley, pennaeth gwybodaeth Mind.
“Mae nifer ohonom yn cael ein heffeithio gan newidiadau yn y tymhorau – er enghraifft, efallai y byddwn yn gweld bod ein hwyliau neu lefelau egni yn gostwng pan fydd hi'n oerach neu'n gynhesach, neu'n sylwi ar newidiadau yn ein patrymau cysgu neu fwyta.
“Ond i'r rheiny sy’n byw gydag anhwylder effeithiol tymhorol, mae newidiadau tymhorol yn cael effaith ddifrifol ar hwyliau a lefelau egni gan arwain at symptomau iselder, ac effeithio ar fywyd o dydd i ddydd,” meddai.
Mae Chris Jones yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr er mwyn galluogi pobl i gydnabod y symptomau.
“Mae’n iawn i beidio bod yn iawn ar gyfnodau, weithiau, ar ddiwrnodau tywyll, gwlyb, diflas.
“Jyst sylweddolwch beth yw e, cydnabyddwch bod rhyw gyflwr yna, a jyst derbynnwch bod e yna a triwch eich gorau er mwyn Duw, i ‘neud rhywbeth am y peth,” meddai.