Tân ar lori yn cau rhan o'r A55 yng Ngwynedd
10/11/2023
Roedd rhan o ffordd yr A55 ger Bangor ar gau am gyfnod fore Gwener oherwydd tân ar lori.
Roedd Traffig Cymru wedi dweud am 7.20 fod y ffordd ger Cyffordd 12 ar gau ac roedden nhw’n gofyn i bobl osgoi’r ardal.
Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.
Roedd delweddau camera o’r ffordd yn dangos lori ar dân.
Dywedodd Traffig Cymru: "Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd oherwydd tân mewn cerbyd.
“Osgowch yr ardal os gwelwch yn dda."
Dywedodd gwasanaeth traffig Inrix bod lori ar dân a bod y gwasanaethau brys yno yn diffodd y fflamau.