'Chwyddiant ar fai': Economi y DU heb dyfu o gwbl rhwng mis Gorffennaf a Medi
Ni wnaeth economi'r DU dyfu o gwbl o fis Mehefin i Fedi eleni, yn ôl y swyddfa ystadegau gwladol.
Ond roedd hynny’n well nac oedd economyddion wedi ei ddisgwyl, sef cwymp o 0.2% yng nghynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt mai chwyddiant uchel oedd y rhwystr unigol mwyaf i dwf economaidd.
"Y ffordd orau o dyfu ein heconomi ar hyn o bryd yw cadw at ein cynllun i gael gwared ar chwyddiant," meddai wrth ymateb i'r ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Gwener.
"Bydd Datganiad yr Hydref yn canolbwyntio ar sut sicrhau fod yr economi yn tyfu unwaith eto drwy esgor ar fuddsoddiad, annog pobl yn ôl i'r gweithle a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus fel y gallwn ni sicrhau’r twf sydd ei angen ar ein gwlad.”
'Cwymp'
Dywedodd cyfarwyddwr ystadegau economaidd y swyddfa ystadegau gwladol, Darren Morgan, fod yr economi wedi tyfu 0.2% ym mis Medi gan gynnig rywfaint o obaith at y dyfodol.
“Rydyn ni’n amcangyfrif na ddangosodd yr economi unrhyw dwf o gwbl yn nhrydydd chwarter y flwyddyn,” meddai.
“Gostyngodd y diwydiant gwasanaethau ryw ychydig gyda chwymp mewn iechyd, ymgynghori a rhentu eiddo masnachol.
“Cafodd y rhain eu gwrthbwyso’n rhannol gan dwf mewn peirianneg, gwerthu ceir a benthyca peiriannau.”