Newyddion S4C

‘Annigonol’: Beirniadu gallu Heddlu’r Gogledd i ymdrin â throseddau difrifol

10/11/2023
Yr heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ‘annigonol’ meddai adolygiad i’w gallu i ymdrin â’r troseddau mwyaf difrifol.

Roedd yr adolygiad gan yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub yn edrych ar allu heddluoedd yng ngogledd orllewin a Lloegr a gogledd Cymru i ymateb i “droseddau difrifol a chyfundrefnol” (serious and organised crime).

Heddlu Gogledd Cymru oedd y gwannaf o’r lluoedd yn ôl yr arolygiad a oedd yn edrych ar droseddau gan gynnwys cyffuriau, arfau a thwyll.

Roedd Heddlu Glannau Mersi ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Gogledd Orllewin Lloegr yn “eithriadol”, Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn a Heddlu Manceinion Fwyaf yn “dda”, Cwnstabliaeth Swydd Gaer yn “ddigonol” a Cwnstabliaeth Cumbria “angen gwella”.

Ond roedd gan swyddogion heddlu'r gogledd ddiffyg dealltwriaeth o bwysigrwydd troseddau difrifol a nifer o ddyletswyddau eraill oedd yn cyfyngu ar eu gallu i ganolbwyntio arnyn nhw, meddai.

‘Blaenoriaeth’

Dylai Heddlu Gogledd Cymru sicrhau “bod ganddo ddigon o adnoddau i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol yn effeithiol,” meddai’r adroddiad. 

“Rhaid iddo hefyd sicrhau bod ei weithlu yn deall bod troseddau cyfundrefnol difrifol yn flaenoriaeth".

Nid oedd staff “yn deall yn llawn” bygythiad troseddau difrifol a chyfundrefnol, a doedd gan y llu ddim “digon o adnoddau dadansoddol” i fynd i’r afael â throsedd o’r fath.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman, ei bod hi’n derbyn casgliadau'r adolygiad yn llawn ac wedi ymrwymo i gyflwyno'r argymhellion.

Roedd y llu eisoes wedi gwneud “newidiadau sylweddol” i fynd i’r afael â throseddau o’r fath, meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.