Newyddion S4C

Economi Prydain wedi tyfu 2.3% wedi’r cyfnod clo

Golwg 360 11/06/2021
Caerdydd

Mae’r ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi datgelu fod economi’r Deyrnas Unedig wedi tyfu ar ei chyfradd gyflymaf ers mis Gorffennaf 2020 ar ôl llacio'r cyfyngiadau coronafeirws ym mis Mawrth eleni. 

Roedd cynnydd o 2.3% yn nhwf yr economi yn ystod Ebrill 2021, o’i gymharu â 7.3% yng Ngorffennaf 2020.

Y gred yw, yn ôl Golwg360, y byddai’r twf wedi bod yn uwch oni bai am arafu yn y sector adeiladu. 

Dywed y Canghellor Rishi Sunak fod y ffigyrau yn “arwydd addawol iawn bod ein heconomi yn dechrau adfer”. 

Fodd bynnag, mae’n pwysleisio fod yna bobl “sydd dal angen" cefnogaeth y llywodraeth, gan gyfeirio at y cynllun ffyrlo sydd ar waith tan fis Medi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.