Newyddion S4C

Cau rhan o’r A470 ar ôl i wal ddymchwel

10/11/2023
Wal yr A470

Roedd rhan o’r A470 ar gau fore Gwener i'r ddwy gyfeiriad ar ôl i wal gynnal ar ochr y ffordd ddymchwel.

Cafodd y ffordd ei gau wedi i’r wal a oedd yn cynnal rhan o'r ffordd ddymchwel ger Talerddig ym Mhowys.

Dywedodd Traffic Cymru brynhawn Iau fod y ffordd ar gau i'r ddwy gyferiad rhwng Carno a Dolfach.

Roedd gyrrwyr cerbydau yn cael eu dargyfeirio heibio Aberystwyth - taith o 71 milltir.

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau yn fuan, meddai'r corff.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.