Cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn 'anghyson' yn eu safbwynt ar y Dwyrain Canol
Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o fod yn "anghyson" wedi i weinidogion ymatal yn y bleidlais yn galw am gadoediad ar unwaith yn Israel a Gaza.
Yn ôl Dylan Lewis-Rowlands, sydd yn aelod o'r blaid ac yn is-gadeirydd ar fudiad Gwreiddiau Llafur Cymru "Mae'r Llywodraeth yn gwthio'r neges cenedl heddwch. Maen nhw wedi dweud pethau am Wcráin, mae gennym ni bobl yn y Cabinet fel Mick Antoniw sydd yn flaenllaw iawn ar Wcráin. Byddwn i wedi hoffi gweld Mark [Drakeford] yn dod mas a dweud 'cadoediad yw'r ateb'."
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, wedi ei feirniadu gan rai dros ei safbwynt ar y rhyfel yn Israel a Gaza. Mae e'n galw am oedi dyngarol - nid am gadoediad.
Fe wnaeth 11 o Aelodau Senedd Llafur Cymru bleidleisio o blaid cadoediad ar unwaith - gan fynd yn erbyn barn yr arweinyddiaeth. Er iddi ymatal yn y bleidlais, mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud mewn erthygl bapur newydd ddiweddar ei bod hi hefyd am weld cadoediad.
Dywedodd Prif Chwip y blaid yn Senedd Bae Caerdydd, Jane Hutt, yn y ddadl y byddai Gweinidogion y llywodraeth "yn ymatal, gan gadw at arfer Llyowdraeth Cymru o ymatal ar faterion tramor, sydd y tu allan i gylch gorchwyl y Senedd."
Mae rhai wedi tynnu sylw Newyddion S4C at adegau eraill yn y gorffennol agos lle mae'n ymddangos bod Gweinidogion wedi gwneud datganiadau, a phleidleisio ar gynigion yn ymwneud â materion tramor.
Mewn gwylnos tu fas i swyddfa etholaethol Aelod Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens, fe ddywedodd yr ymgyrchwraig a chyn Aelod Senedd Plaid Cymru Bethan Sayed: "Mae'n anghyson, achos ry'n ni wedi gweld ar faterion eraill bod Gweinidogion nid yn unig wedi pleidleisio ond wedi siarad - dwi'n credu bod Mick Antoniw wedi siarad mewn dadleuon yn y gorffennol gan fod ganddo fe hanes a theulu yn Wcráin.
"Rwy'n parchu hynny, ond wedyn byddwn i'n hoffi gallu parchu Gweinidogion Cymru am gymryd safiad clir pan fod 'na achosion eraill o drafodaethau a phleidleisiau. Rwy'n siomedig iawn yma heno."
Dadl y Llywodraeth yw nad oedd y pleidleisiau yn y gorffennol yn galw am ymateb penodol dramor. Maen nhw'n dweud bod hynny'n wahanol i'r cynnig neithiwr, oedd yn galw am gadoediad.
Ond mae un o Aelodau Seneddol Cymreig y blaid wedi galw ar Mark Drakeford i esbonio beth yw ei safbwynt ar y rhyfel yn Israel a Gaza.
Dywedodd Beth Winter, yr Aelod Seneddol dros Gwm Cynon, wrth Newyddion S4C: "Mae fe yn anffodus, ond rwy'n stryglan i ddeall beth yw safbwynt Prif Weinidog Cymru. Rwy'i yn y broses o ofyn beth yw safbwynt y Prif Weinidog."
"Dwi'n croesawu'r bleidlais a'r ffaith bod y Senedd wedi galw am gadoediad ar unwaith. Dyna fy safbwynt i ers i'r argyfwng ddechrau."
"Mae'n anffodus bod arweinydd y Blaid Lafur [Keir Starmer] ac arweinwyr eraill yn y blaid ond yn galw am oedi dyngarol."
Fe ofynodd Newyddion S4C a oedd y Gweinidog Iechyd wedi gofyn am ganiatad swyddfa'r Prif Weinidog cyn ysgrifennu ei herthygl ar gyfer Walesonline lle roedd hi'n mynegi ei chefnogaeth i gadoediad yn Gaza ac Israel. Mae'r cod Gweinidogol yn nodi "Dylid ymgynghori â swyddfa'r Prif Weinidog cyn gwneud unrhyw benderfyniad i roi cyfweliadau pwysig ac ymddangos yn y cyfryngau, nail ai mewn print neu mewn darllediadau."
Dweud na fydden nhw yn gwneud sylw ar hynny wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.