‘Ddim yn addas’ i AS o Gymru sydd dan ymchwiliad siarad yn Nhŷ’r Cyffredin
Doedd hi ddim yn addas i AS o Gymru sydd dan ymchwiliad am aflonyddu rhywiol gael ei alw i siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yn ôl swyddfa’r Llefarydd.
Roedd Geraint Davies sy’n cynrychioli Gorllewin Abertawe wedi ceisio siarad yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau ond ni chafodd ei alw gan y Llefarydd.
Yn ddiweddarach dywedodd swyddfa’r llefarydd Sir Lindsay Hoyle na fyddai wedi bod yn “addas” gwneud hynny.
Mae Geraint Davies wedi ei atal o’r Blaid Lafur am y tro yn dilyn honiad o aflonyddu rhywiol ac yn cynrychioli'r sedd fel AS annibynnol.
Mae’n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Roedd Geraint Davies wedi gobeithio siarad yn ystod dadl am annibyniaeth Heddlu’r Met cyn protestiadau arfaethedig ar Sul y Cofio.
Ar ddiwedd y sesiwn ef oedd yr unig AS oedd wedi gobeithio siarad na gafodd gyfle i wneud hynny.
'Heb sylwi'
Dywedodd swyddfa’r Llefarydd mai penderfyniad Lindsay Hoyle neu un o’i ddirprwyon oedd pwy i alw arnynt i siarad.
“Yn yr achos yma roedd y Llefarydd yn deall bod Geraint Davies wedi dewis yn wirfoddol i gadw draw o’r Siambr wrth i’r ymchwiliadau fynd rhagddynt,” meddai.
“Penderfynodd y Llefarydd ei fod yn addas parchu’r cytundeb honno, o ystyried natur yr honiadau.”
Dywedodd Geraint Davies wrth asiantaeth PA nad oedd yn deall pam na gafodd y cyfle i siarad.
“Efallai nad oedd o wedi sylwi arna i – dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd,” meddai.
Cafodd Geraint Davies ei wahardd o’i blaid ym mis Mehefin ar ôl honiadau o aflonyddu rhywiol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur ar y pryd: “Mae’r rhain yn honiadau difrifol iawn o ymddygiad annerbyniol.
“Rydym yn annog unrhyw un gyda chwyn i gyfrannu i ymchwiliad y Blaid Lafur.
“Bydd unrhyw berson sydd yn cwyno yn cael mynediad i wasanaeth cefnogaeth annibynnol, fydd yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol gan arbenigwyr allanol drwy gydol y broses.”