Rhoi'r gorau i gynllun niwclear oherwydd costau cynyddol
Mae cwmni Americanaidd sydd wedi trafod creu adweithyddion niwclear bychain yng Nghymru wedi rhoi'r gorau i gynllun tebyg yn yr Unol Daleithiau oherwydd costau cynyddol.
Y disgwyl oedd mai cynllun cwmni Nu-Scale yn nhalaith Idaho fyddai'r cynllun cyntaf o'i fath yn yr Unol Daleithiau. Ond cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau eu bod nhw'n dirwyn y prosiect yno i ben am resymau ariannol.
Mae'r cwmni wedi mynegi diddordeb mewn creu adweithyddion niwclear bychain tebyg ar safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd, ac maen nhw wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad yn yr Unol Daleithiau, dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd - sy'n cynnwys Trawsfynydd - ar Twitter: "Mae buddsoddwyr ariannol yn tynnu allan o niwclear oherwydd y costau enfawr, yr ansicrwydd, a chostau llawer is ynni adnewyddol."
'Parhau'
Mae NuScale yn un o chwe chwmni sy'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth wedi ei threfnu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i'r cynllun niwclear bychan mwyaf addas (SMR).
Er gwaetha'r penderfyniad i roi'r gorau i'r cynllun yn Idaho, mae'r cwmni'n gobeithio bwrw ymlaen a chynlluniau i godi adweithyddion tebyg yn Romania a Gwlad Pwyl.
Dywedodd Llywydd NuScale, John Hopkins: "Bydd NuScale yn parhau, ynghyd a'n cwsmeriaid domestig a rhyngwladol, i ddod a'n technoleg SMR Americanaidd i'r farchnad."