Newyddion S4C

Tad y chwaraewr pêl-droed Luis Díaz wedi cael ei ryddhau

09/11/2023
Díaz.png

Mae tad chwaraewr pêl-droed Lerpwl Luis Díaz wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei gipio yng Ngholombia yn ôl adroddiadau yn y wlad. 

Bron i bythefnos ar ôl iddo gael ei gipio, cafodd Luis Manuel Díaz ei ryddhau gan guerrillas ddydd Iau. 

Fe gafodd Mr Díaz a'i wraig eu cipio gan ddynion arfog ar feiciau modur tra'r oedden nhw'n teithio adref yn eu car. 

Mae ei wraig Cilenis Marulanda eisoes wedi cael ei rhyddhau. 

Mewn datganiad brynhawn Iau, cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Colombia fod Mr Díaz wedi cael ei ryddhau. 

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Colombia yn diolch i'r Llywodraeth Cenedlaethol, y Lluoedd Milwrol a’r Heddlu Cenedlaethol, yn ogystal â’r holl sefydliadau a swyddogion a wnaeth sicrhau bod Luís Manuel Díaz, tad ein chwaraewr Luís Díaz, yn cael ei ryddhau."

Roedd Luís Díaz eisoes wedi erfyn i'w dad gael ei ryddhau wedi iddo wisgo crys gyda'r geiriau 'Rhyddid i Dad' yng ngêm bêl-droed Lerpwl yn erbyn Luton dros y penwythnos.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.