Bydd Israel yn gweithredu seibiau pedair awr bob dydd, meddai UDA
Bydd Israel yn dechrau gweithredu “seibiau dyngarol” pedair awr yng ngogledd Gaza bob dydd er mwyn caniatáu i bobol ffoi, meddai’r Tŷ Gwyn yn Washington.
Mae llefarydd ar ran yr Arlywydd Biden wedi galw’r symudiad yn gam i'r cyfeiriad cywir a dywedodd fod yr Unol Daleithiau eisiau i'r seibiau barhau cyhyd ag y bo angen.
Fe fydd y saib dyngarol cyntaf yn cael ei gyhoeddi heddiw ac mae Israel wedi ymrwymo i gyhoeddi amser pob ffenestr o leiaf dair awr ymlaen llaw, meddai.
Dyw America dal ddim yn cefnogi cadoediad yn Gaza ar hyn o bryd, meddai'r llefarydd.
Mae gweinyddiaeth Biden wedi sicrhau ail lwybr i bobl gyffredin ffoi rhag ymladd, meddai.
Ychwanegodd mai nod yr Unol Daleithiau yw gweld o leiaf 150 o lorïau dyngarol yn mynd i mewn i Gaza bob dydd.