Dedfrydu dyn i garchar am achosi marwolaeth menyw ifanc wrth yrru
Mae dyn 32 oed, wedi'i ddedfrydu i fwy na bedair blynedd yn y carchar am achosi marwolaeth menyw ifanc wrth yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Fe wnaeth Matthew Jones, o Lynebwy, bledio yn euog o flaen Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher 8 Tachwedd.
Roedd yn gyrru Dacia Sandero a fu mewn gwrthdrawiad ar yr A472 rhwng Crymlyn a Hafodyrynys yn oriau mân ddydd Sadwrn 14 Ionawr.
Bu farw Nuria Zamel Casino, 28 oed, a oedd yn teithio yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, yn ddiweddarach yn yr ysbyty o ganlyniad i anafiadau.
'Dinistriol'
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Gerwyn Harris, y swyddog yn yr achos:
“Mae gweithredoedd hunanol Jones yn amlygu gwir beryglon gyrru o dan ddylanwad a arwainweiniodd at farwolaeth merch ifanc oedd â’i bywyd cyfan o’i blaen.
“Does dim esgusodion dros yrru ar ôl cymryd cyffuriau – fe all gael effaith ddinistriol ar eraill fel y gwelir yn yr achos hwn.
“Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda theulu Nuria.”
Mae Jones hefyd wedi’i waharadd rhag gyrru am wyth mlynedd a dau fis.